Neidio i'r prif gynnwy

2. Ymchwil Nyrsio a Rhyngddisgyblaethol

Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre

Uchafbwyntiau

Cymrodoriaethau Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre ar y gweill.

Gwobrau Cyflwyniad i Ymchwil (CIY) Felindre 2023:

  • Mae Barbara Wilson yn astudio'r gwaith o baratoi nyrsys Felindre sydd newydd eu penodi ar gyfer cyflwyno ThGGS yn ddiogel.
  • Mae Francis Brown yn astudio rheolaeth gwenwyndra acíwt gan nyrsys yn yr uned ddydd ThGGS.
  • Mae Deborah Lewis yn astudio anghenion cefnogaeth emosiynol cleifion ar ôl treial triniaeth canser.

Gwobr Cymrodoriaeth PhD Felindre 2023:

  • Mae Ceri Stubbs yn ymchwilio i oedi wrth geisio cymorth gan gleifion â gwenwyndra ThGGS. Ei chwrs astudio PhD ar 1 Ionawr 2024.

Mae Tîm Cymorth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre bellach ar gael i gynnig hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth ymchwil. Aelodau'r tîm yw Nichola Gale, Sarah Fry, Nicholas Courtier, Jane Hopkinson, a Zahida Azhar.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cymuned Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre ar 30 Tachwedd 2023, gyda 15 o bobl yn bresennol.

Her

Pwysau parhaus ar wasanaethau clinigol ar draws disgyblaethau gofal iechyd yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Y camau nesaf

Datblygu addysg a hyfforddiant pwrpasol mewn ymchwil canser ar gyfer nyrsys, fferyllwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a radiograffwyr Felindre.

 

2.1 Rhaglen Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre: Trosolwg Darluniadol

 

2.2 Cymrodoriaethau Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felinder

Mae Cynllun Cymrodoriaeth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre yn fuddsoddiad gan Elusen Felindre i gryfhau arweinyddiaeth nyrsys a phroffesiynau iechyd mewn gofal canser diogel ac o ansawdd uchel.

Mae'r cymrodoriaethau'n agored i nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, fferyllwyr, a radiograffwyr, grwpiau staff nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol yn hanesyddol gan addysg a chyfle i ysgogi gwelliant ac arloesi gwasanaethau sy'n seiliedig ar ymchwil.

Bydd cynllun Cymrodoriaeth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre yn cefnogi dilyniant gyrfa o fewn y fframwaith cymhwysedd cenedlaethol ar gyfer Ymarferwyr Uwch. Mae gan Uwch Ymarferwyr elfen ymchwil i’w swydd, gan weithredu fel yr Ymchwilydd Pennaf a/neu’r Prif Ymchwilydd ar gyfer prosiectau ymchwil. Bydd y cynllun cymrodoriaeth yn grymuso Uwch Ymarferwyr Felindre i weithio ar frig eu trwydded a’u galluogi i fod yn academyddion clinigol sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth drawsnewidiol ar sail tystiolaeth.

Ceri Stubbs, Uwch-ymarferydd Nyrsio (UYN), yw deiliad cyntaf Cymrodoriaeth PhD Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre, a theitl ei phrosiect ymchwil yw: “Exploring the help seeking behaviours of Cancer patient who become unwell whilst undergoing Systemic Anti-Cancer Treatment (SACT) requiring admission to a regional cancer centre.”

“Roedd y syniad wedi bod ar fy meddwl ers tro, ers blynyddoedd a dweud y gwir. Fel rhan o'r tîm oncoleg acíwt, rwyf wedi gofalu am gleifion sy'n mynychu eu hapwyntiadau clinig arferol neu driniaeth ac sy'n eithaf sâl. Maen nhw wedi bod yn dioddef symptomau ers peth amser gartref, ond heb alw'r llinell gymorth driniaeth nac wedi estyn allan mewn unrhyw ffordd am gefnogaeth.  

O ganlyniad, maen nhw’n dod ar ddiwrnod eu triniaeth heb fod yn ddigon da i gael triniaeth neu weithiau mor sâl fel bod yn rhaid eu trosglwyddo i ysbyty acíwt.

Mae gen i fy meddyliau fy hun am ymddygiadau cleifion o ran ceisio cymorth. Mae cleifion yn dweud nad ydyn nhw eisiau ein poeni ni, neu maen nhw'n obeithiol am eu triniaeth felly yn bychanu eu symptomau. Fodd bynnag, gall gwenwyndra o driniaeth canser neu heintiau newid bywyd – mae’n llawer gwell adnabod, asesu a thrin y problemau’n gynnar.

Gwnaeth hyn oll i mi feddwl – a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud yn wahanol neu addasu unrhyw ymyriadau ar gyfer cleifion i helpu i leihau nifer yr achosion o hyn yn digwydd?”

Ceri Stubbs
UYN ac Arweinydd Prosiect Clinigol Oncoleg Acíwt

2.3 Cymuned Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre

Mae Cymuned Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre yn cyfarfod bob deufis.

Mae hyn yn galluogi staff sydd â diddordeb mewn ymchwil i ddysgu mwy am ymchwil trwy ymgysylltu â grŵp cefnogol o glinigwyr ac ymchwilwyr.

2.4 Cynllun Grantiau Bach Gofal Iechyd Felindre

Deiliaid dyfarniadau presennol Cynllun Grantiau Bach (Canser) Gofal Iechyd Felindre yw Dr Jane Mathlin, Radiograffydd Ymgynghorol, a Dr Caroline Coffey, Seicolegydd Ymgynghorol.

Daeth astudiaeth Dr Jane Mathlin o newid blas ar ôl triniaeth radiotherapi i ben ym mis Rhagfyr 2023. Mae wedi arwain at ddatblygu taflen wybodaeth i gleifion a gofal cefnogol diwygiedig i gleifion. Cyflwynwyd poster yng Nghynhadledd Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd 2023. Mae crynodeb wedi'i dderbyn ar gyfer cyflwyno e-boster yn MASCC 2024, Lille, Ffrainc.

Daeth prosiect Dr Caroline Coffey, am frysbennu seicoleg a ymarferwyd mewn partneriaeth â Maggies, i ben ym mis Rhagfyr 2023. Gwerthusodd y model gwasanaeth ac mae wedi arwain at adolygu gwaith partneriaeth. Mae adolygiad o lenyddiaeth am y defnydd o frysbennu o fewn gwasanaethau seicoleg ar gyfer cleifion canser wrthi’n cael ei ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn. 

2.5 Llwybr Gyrfa Academaidd Clinigol Gofal Iechyd Felindre

Mae gwaith i sefydlu Llwybr Gyrfa Academaidd Clinigol Gofal Iechyd Felindre yn cael ei lywio gan ymgysylltu â Rhwydwaith Gweithredu Rolau Academaidd Clinigol (RhGRAC), Cyngor y Deoniaid.

Mae hwn yn rhwydwaith ledled y DU ar gyfer meithrin gallu ymchwil clinigol-academaidd nyrsys a phroffesiynau iechyd.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Is-grŵp y Gwledydd Datganoledig ar ddiwedd 2023 gyda ffocws ar sefydlu gyrfaoedd clinigol-academaidd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

I gael rhagor o wybodaeth am RhGRAC, Cyngor y Deoniaid, ewch i: https://www.councilofdeans.org.uk/category/policy/research/clinical-academic-roles-implementation-network/.

Mae Tîm Cymorth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre hefyd yn rhan o rwydwaith CYPPI.

2.6 Hyfforddiant efelychu ar gyfer ymateb i adweithiau niweidiol ThGGS

Llongyfarchiadau i Hyfforddwr Clinigol ThGGS, Fran Brown, sydd wedi cael dyfarniad Cyflwyniad i Ymchwil Felindre am astudiaeth sy’n ymchwilio i botensial hyfforddiant efelychu i wella gwybodaeth a hyder nyrsys sy’n ymateb i adweithiau niweidiol acíwt i driniaeth ThGGS.

“Fel rhan o’r tîm hyfforddiant clinigol, fy ngwaith i yw helpu’r staff i gadw eu gwybodaeth a’u sgiliau yn gyfredol, yn ogystal â chefnogi nyrsys newydd i fagu hyder wrth ddarparu triniaeth i’n cleifion. Rydym yn helpu gyda hyfforddiant, sgiliau clinigol, diwrnodau astudio a sesiynau diweddaru.

Gall rhai mathau o gemotherapi ac imiwnotherapi achosi sgil-effeithiau andwyol mewn cleifion. Gall fod yn adwaith ysgafn, fel ychydig o gosi, i rywbeth mwy difrifol lle mae'n rhaid rhoi adrenalin i gleifion. Gallai hwn fod yn brofiad brawychus iawn i’r claf, ac mae’n ofynnol i staff weithredu’n gyflym ac yn ddigynnwrf i reoli’r sefyllfa’n effeithiol. Gall aelodau newydd o staff deimlo allan o’u dyfnder i ddechrau, nes iddynt ddod yn fedrus wrth reoli'r digwyddiadau hyn.

Gall fod yn eithaf brawychus oherwydd gall yr adwaith ddod ymlaen yn gyflym iawn, iawn. Un funud mae'r claf yn eistedd yno, yn hollol iawn, y funud nesaf mae'n teimlo'n boeth ac yn ymddangos yn eithaf gwridog!”

Mae’r hyfforddiant presennol i nyrsys mewn perthynas â digwyddiadau niweidiol sy’n gysylltiedig â ThGGS yn cael ei gynnal yn yr ystafell ddosbarth, ac mae’n cynnwys darlith a senarios ysgrifenedig. Yna mae staff newydd yn gweithio ochr yn ochr â'u mentor a'r tîm addysg ar yr unedau dydd ThGGS i ddysgu gofalu am glaf sy'n cael adwaith niweidiol.

Dyma lle mae prosiect ymchwil Fran yn dod i mewn. Mae hi’n ymchwilio i’r potensial i gyflwyno hyfforddiant efelychu yn ogystal â’r dull traddodiadol o addysgu er mwyn galluogi staff i ymarfer eu hymateb a magu hyder.

“Dydw i ddim wedi cael unrhyw brofiad o ymchwil go iawn fy hun, ond rydw i wedi bod â diddordeb ynddi erioed. Rwy'n meddwl, fel nyrs, ein bod wedi'n rhaglennu i fod yn feddylwyr beirniadol. Nid dim ond derbyn ydych chi; rydych chi eisiau gwybod beth yw'r dystiolaeth. Hyd yn hyn, bu llawer o gynllunio i roi trefn ar gynlluniau gwersi a logisteg. Mae fy ngoruchwyliwr ymchwil, Nichola Gale, wedi bod yn gefnogol iawn, gan fy arwain drwy'r ffordd orau o wneud hyn.

Mae Addysg Gwella Iechyd Cymru yn cynnig sawl cwrs hyfforddi efelychu ar gyfer hwyluswyr, ac rwyf wedi archebu lle ar un o’r dyddiau hyn.

Mae llawer i’w ddysgu ond rydw i’n mwynhau. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y cyfle i ganfod a allwn wella ein hyfforddiant i nyrsys a chael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion.”

Mae ymchwil yn dangos bod efelychu yn ffordd effeithiol iawn o hyfforddi oherwydd ei fod yn cael ei wneud mewn amgylchedd diogel yn seicolegol ac yn gorfforol, lle gellir gwneud camgymeriadau, a thrafod problemau.

Er bod cryn dipyn o waith ymchwil wedi'i wneud ar hyfforddiant efelychu mewn gofal iechyd, nid oes llawer o lenyddiaeth ar gael yn ymwneud â hyfforddiant efelychu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig ac addysg SACT.

“Mae dwy ran i’m prosiect – mae grŵp diweddar o nyrsys newydd yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol, yn siarad drwy’r theori ac yn defnyddio senarios i gymhwyso eu gwybodaeth. Yna ym mis Ebrill 2024, bydd gennym ni grŵp newydd arall o nyrsys, a byddwn yn gwneud yn union yr un peth. Ond byddwn hefyd yn mynd â nhw i'r labordy sgiliau lle gallwn ni efelychu'r senarios,” meddai Fran.

Bydd y ddau grŵp yn cwblhau holiaduron gwybodaeth a hyder cyn eu hyfforddiant ac eto wythnos ar ôl hynny. Yna bydd canlyniadau'r ddau grŵp yn cael eu cymharu i weld a oes unrhyw wahaniaeth yng nghanlyniadau'r hyfforddiant.

2.7 Tim Cymorth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre

Mae Tîm Cymorth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre yn staff gweithredol o ran ymchwil canser a gyflogir gan Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd. Aelodau’r tîm yw Dr Sarah Fry, Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio, Dr Nichola Gale, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi, Dr Nicholas Courtier, Uwch Ddarlithydd mewn Radiograffeg, yr Athro Jane Hopkinson, Athro Nyrsio a Gofal Canser Rhyngddisgyblaethol Felindre, gyda chymorth gweinyddol gan Mrs Zahida Azhar.

Mae pob aelod o'r tîm yn darparu hyfforddiant un-i-un ar gyfer Cymrawd Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre.

Mae aelodau'r tîm hefyd ar gael i gynnig ymgynghoriad un-i-un i staff eraill ar ysgrifennu cais am arian, ysgrifennu cynnig ymchwil, dylunio ymchwil, rheoli prosiectau, dadansoddi data, a lledaenu i gynnwys ysgrifennu i'w gyhoeddi.

Mae Tîm Cymorth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre bellach ar gael i gynnig hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth ymchwil.

Aelodau'r tîm yw Nicholas Courtier, Nichola Gale, Jane Hopkinson, Sarah Fry a Zahida Azhar

2.8 Perfformiad Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre

Mae'r tabl canlynol yn dangos perfformiad cronnol Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA). Mae'r mesurau perfformiad ar gyfer holl Bortffolio Ymchwil yr Ymddiriedolaeth i'w gweld yn adran 3. Ymchwil Gwasanaeth Canser Felindre.

DPA

TARGED

Y FLWYDDYN

Ch1

(llinell sylfaen)

 

Ch2

(cronnol)

Ch3

(cronnol)

Ch4

(cronnol)

Cyfanswm   2023/24

ARWEINYDDIAETH YMCHWIL

Prosiectau Ymchwil Canser Gofal Iechyd dan arweiniad Felindre (ar y gweill / wedi'u cwblhau)

Ch1 +3

Wedi’i gyflawni

6 ar y gweill

 

2 wedi’u cwblhau

8 ar y gweill

 

3 wedi’u cwblhau

7

 

7 wedi’u cwblhau

6 ar y gweill

 

8 wedi’u cwblhau

8 (Ch1) + 6 = 14

 

Cydweithrediad Felindre ar Ymchwil Canser Gofal Iechyd a arweinir yn allanol (ar y gweill / wedi'u cwblhau)

Ch1 +3

3 ar y gweill

 

2 wedi’u cwblhau

3 ar y gweill

 

3 wedi’u cwblhau

3 ar y gweill

 

3 wedi’u cwblhau

3 ar y gweill

 

3 wedi’u cwblhau

5 (Ch1) + 1 = 6

Nyrs, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd, fferyllydd, radiograffydd, Prif Ymchwilwyr (PY)

Ch1 +3

3

3

4

4

3 (Ch1) + 1 = 4

Ymchwilwyr Pennaf (PI) Nyrsys treialon

Ch1 +1

0

0

0

0

0 + 0 = 0

Ymchwilwyr pennaf ymchwil canser gofal iechyd eraill

Ch1 +2

 

1

1

1

2

Cwestiwn 1:

CYLLID

Ceisiadau am arian grantiau allanol

Ch1 +2

 

Wedi’i gyflawni

0

2

3

3

0 (Q1) + 3 = 3

Ceisiadau am gyllid prosiectau ymchwil mewnol

Ch1 +5

 

Wedi’i gyflawni

1

6

6

6

1 (Q1) + 5 = 6

MEITHRIN GALLU

Digwyddiad/gweithdy addysg

4

 

Wedi’i gyflawni

5

0

6

7

7

Prosiectau grantiau bach ar y gweill

0 (diwedd cynllun)

 

Wedi’i gyflawni

3

3

1

0

0

Dyfarniadau Cyflwyniad i Ymchwil Felindre ar y gweill

3

Wrthi’n cael eu sefydlu

3

3

2

2

Dyfarniadau  Ysgoloriaeth Ymchwil Gofal Iechyd Felindre ar gyfer Doethuriaeth

1

 

Wedi’i gyflawni

Wrthi’n cael eu sefydlu

1

1

1

1

Dyfarniadau Ôl-ddoethurol Gofal Iechyd Felindre

1

Wrthi’n cael eu sefydlu

Galwad wedi'i gynllunio ym mis Ionawr 2024

Galwad yn cau ar 31 Ionawr 2024

0

0

Sgôr aeddfedrwydd ymchwil gofal iechyd Felindre

 

Offeryn yn cael ei ddatblygu

Offeryn yn cael ei ddatblygu

Offeryn yn barod i'w brofi

Prawf ar y gweill

Amherthnasol

LLEDAENU YMCHWIL

Cyhoeddiadau

1 fesul PY

 

Wedi’i gyflawni

4

6

7

7

7

Cyflwyniadau

1 fesul CI/PI

 

Wedi’i gyflawni

7

11

13

13

13