Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaeth Strategol 1

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn bwrw ymlaen â gweithredu ei Huchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser

 

1. Uchelgeisiau Strategol Ymchwil a Datblygu Canser Felindre

1.1 Meithrin gallu a medruswydd ymchwil yn Felindre ac ar draws De-ddwyrain Cymru

O Strategaeth Drosfwaol Uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser 2021-31, dywedasom y byddem yn gwneud y canlynol: ‘Meithrin gallu a medrusrwydd ymchwil yn Felindre ac ar draws De-ddwyrain Cymru’

Ac rydym wedi:

Croesawu aelodau newydd o’r tîm drwy Weithredu Uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser – Achos Busnes Integredig 2023-2026

Daeth y cais llwyddiannus i Gronfeydd Elusennol Felindre â 49.9 o swyddi newydd cyfwerth ag amser llawn i mewn (mae hyn yn cynnwys swyddi a ariennir ar y cyd) dros dair blynedd. Ffocws y cais yw ehangu a chydbwyso’r portffolio ymchwil canser i gynyddu’r recriwtio i astudiaethau ymchwil a arweinir neu a gefnogir gan Felindre. Yn ogystal ag ariannu Cynllun Cymrodoriaeth Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre (gweler yr adran 2.2. Cymrodoriaethau Ymchwil Canser Gofal Iechyd Felindre), mae meysydd eraill sydd newydd gael eu hariannu yn golygu ein bod yn:

  • Datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr drwy roi cyfle i’n hyfforddeion sydd â diddordeb mewn ymchwil ennill graddau uwch (MDs a PhD). Roedd hyn yn golygu arian cyfatebol ar gyfer 3 Chymrawd Ymchwil Clinigol cyfwerth ag amser llawn a swyddi PhD 2xWTE cyfwerth ag amser llawn.
  • Ariannu swyddi ymchwil allweddol mewn Gofal Lliniarol a Chefnogol am y tro cyntaf. Bydd Cymrawd Ymchwil Clinigol sydd newydd ei hariannu a deiliaid swydd Cymrawd Ymchwil anghlinigol hefyd yn cydweithio'n agos â'r ymgynghorydd ar brosiectau allweddol ar brofiad y claf.
  • Ariannu amser sesiynol ar gyfer ymchwil gyda'r nod o wella capasiti, gallu ac arweinyddiaeth ymchwil yn Felindre. Mae sgyrsiau parhaus am sut y gellir llenwi'r sesiynau hyn oherwydd ymrwymiadau clinigol presennol. Mae'r amseroedd sesiynol hyn yn cynrychioli rolau arwain allweddol o fewn ymchwil a fyddai'n ysgogi momentwm wrth gyflawni amcanion yr Ymddiriedolaeth.
  • Yn dangos effaith ein hymchwil gyda'r Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi newydd. Yn fewnol, mae straeon newyddion sy’n ymwneud yn benodol ag ymchwil a datblygu ar ein mewnrwyd wedi cynyddu’n aruthrol ers cael Swyddog Cyfathrebu Ymchwil a Datblygu penodedig: bu cynnydd o 1400% mewn straeon newyddion sy’n ymwneud ag ymchwil a datblygu ar y fewnrwyd (Awst 2022 – Mawrth 2023 o gymharu ag Awst 2023 – Mawrth 2024). Gwelwyd cynnydd mewn gweithgarwch yn allanol, hefyd, gyda straeon newyddion ar y BBC ac ITV. Bydd hyn oll yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o'r ymchwil yr ydym yn ymwneud â hi.

 

1.2 Hyrwyddo triniaethau, ymyrraeth a gofal newydd

O Strategaeth Drosfwaol Uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser 2021-31, dywedasom y byddem yn gwneud y canlynol: 'Hyrwyddo triniaethau, ymyriadau a gofal newydd'

Ac rydym wedi:

Cyflawni cerrig milltir allweddol ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser Caerdydd (CYCC)

Bydd Hyb Ymchwil Canser Caerdydd (CYCC) yn dod ag ymagweddau mwy beiddgar, mwy arloesol at ymchwil am diwmorau solet a haematoleg i Gymru. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae camau sylweddol wedi’u cymryd i baratoi’r CYCC i weithredu fel y drws ffrynt newydd ar gyfer ymchwil canser yng Nghymru:

  • Cafodd claf cyntaf yr Hyb driniaeth ym mis Rhagfyr 2023, sy’n adeg dyngedfennol, ac sy’n dangos bod yr Hyb eisoes yn dod â thriniaethau newydd i gleifion yng Nghymru.

  • Cyflwynwyd yr Achos Amlinellol Strategol (AAS) i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf. Mae hwn yn nodi’r seilwaith ar gyfer yr Hyb ac fe’i harweiniwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCF), gyda mewnbwn allweddol gan gydweithwyr yn Felindre. Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol cychwynnol ac rydym yn aros am fanylion pellach gan Lywodraeth Cymru.

  • Cwblhawyd yr Achos Buddsoddi Strategol. Mae’r ddogfen hon yn adeiladu tuag at Achos Busnes Llawn dros yr Hyb. Mae’n rhoi amcangyfrif o lefel y buddsoddiad ysgogi sydd ei angen i roi’r Hyb ar waith a lle y gellid ceisio’r buddsoddiad hwn.

  • Yn sgil y gwaith hwn, rydym wedi canolbwyntio ar ymarfer ymgysylltu â’r farchnad sy’n cynnwys blaenoriaethu darpar fuddsoddwyr, coladu negeseuon allweddol a drafftio pecyn i fuddsoddwyr.

  • Mae brandio ar gyfer yr Hyb bellach wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Teirochrog a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth greu hunaniaeth gyffredin ar gyfer yr Hyb.

  • Aeth Pecyn Hyfforddi CMThU ac Ymchwil Drosiadol yn fyw gyda naw fideo hyfforddi ar blatfform dysgu Prifysgol Caerdydd (PC). Hefyd, trefnodd Uwch Nyrs Ymchwil yr Hyb ddiwrnod hyfforddi therapïau uwch yn canolbwyntio ar therapïau celloedd mewn clefyd canser, gyda chefnogaeth Therapïau Datblygiedig Cymru (ThDC) a Chanolfannau Meddygaeth Canser Arbrofol (CMCA). Bu'r hyfforddiant yn llwyddiannus iawn ac mae'n cyfrannu at uwchsgilio'r gweithlu

  • Trosolwg o’r portffolio treialon:

 

Cam

Enw’r Astudiaeth

Math o Astudiaeth

Cyllid

Math o Ganser

Agored i recriwtio

MORAb- 202

Y Cyntaf mewn Bodau Dynol                            

Masnachol

Solet –  aml-safle

MonumenTAL-6

Deu-benodol

Masnachol

Haematoleg

Treialon ar fin mynd rhagddo

SOTIO

CMThU, Therapi CAR-T

Masnachol

Solet – aml-safle

MAGE-A3

CMThU, Therapi Genynnau - Brechlyn

Anfasnachol

Solet – Ysgyfaint, Gastroberfeddol Uchaf

BNT116

Cyntaf mewn Bodau Dynol – CMThU, brechlyn mRNA

Masnachol

Solet – Ysgyfaint

Astudiaethau posibl

TILVANCE301

CMThU, TILS

Masnachol

Solet – Melanoma

TG4050

Imiwnotherapi

Masnachol

Solet – y Pen a’r Gwddf

ATTR 01

CMThU, brechlyn firws Oncolytig

Masnachol

Solet – Melanoma

TCD17796

Deu-benodol

Masnachol

Haematoleg

Ar gau

MOAT

CMThU, brechlyn

Masnachol

Solet – y Pen a’r Gwddf