Yr wybodaeth gywir, i'r gweithiwr proffesiynol cywir, ar yr adeg gywir, er mwyn gwneud y penderfyniad cywir i chi.
Trwy'r fenter hon, mae cleifion addas yn cael eu gwahodd i wisgo band arddwrn cod QR fel ffordd o rannu gwybodaeth feddygol bwysig â gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n gwbl wirfoddol ac am ddim.
Mae hon yn ffordd newydd ac arloesol o ganiatáu i'ch gwybodaeth feddygol bwysig fod ar gael yn rhwydd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol pryd bynnag y bo ei hangen. Drwy wisgo'r band arddwrn fel pe bai'n oriawr, byddwch chi'n ei gario gyda chi lle bynnag yr ydych chi, gan ei wneud ar gael i weithiwr gofal iechyd proffesiynol a allai fod ei angen, er enghraifft, mewn argyfwng.
Mae gan bob band arddwrn gofal cleifion god QR unigryw arno (fel y gwelir yn llun 1) sydd, os caiff ei sganio, yn cysylltu â gwefan ddiogel gyda gwybodaeth wedi'i llwytho ymlaen llaw sy'n unigryw i chi, na ellir ond ei chyrchu trwy ‘PIN’ diogel a gedwir y tu mewn i'r band arddwrn.
Os penderfynwch gymryd rhan, byddwn yn eistedd i lawr gyda chi i helpu i uwchlwytho eich gwybodaeth feddygol bwysig i'ch gwefan unigol. Dim ond gwybodaeth rydych chi'n cytuno â hi fydd yn cael ei huwchlwytho.