Neidio i'r prif gynnwy

Arloesedd

Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.

Amdanom ni

Gweledigaeth: Bod yn Goleufa Ryngwladol ar gyfer arloesi mewn Gwasanaethau Canser a Gwaed.

Cenhadaeth: Ysgogi gwelliant parhaus a datblygiadau arloesol mewn gwasanaethau canser a gwaed trwy feithrin diwylliant o arloesi, creadigrwydd, cydweithio a rhagoriaeth.

Cylch gwaith Arloesedd Felindre yw gweithio ar draws yr Ymddiriedolaeth gyda'n gweithlu, ein cleifion, rhoddwyr a phartneriaid allweddol i gefnogi datblygu a darparu arloesedd. Mae ein gweledigaeth yn cynnwys adeiladu ecosystem arloesi gydweithredol lle mae staff, darparwyr gofal iechyd, ymchwilwyr, y byd academaidd, diwydiant, cleifion, rhoddwyr, a phartneriaid cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd yn ddi-dor i ysgogi arloesedd, mynd i'r afael â gwahaniaethau gofal iechyd, a chreu cymunedau iachach. Rydym yn adeiladu ecosystem arloesi sy'n cefnogi ac yn cryfhau'r gallu a'r capasiti i'r Ymddiriedolaeth arloesi.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi gyda syniad prosiect, neu os ydych eisoes yn gyflenwr neu’n entrepreneur sy'n bodoli eisoes gydag ateb arloesol, cysylltwch â’r tîm Arloesi gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

E-bost: Velindre.Innovation@wales.nhs.uk

Ffôn : 02920 615888

Oes gennych chi ateb arloesol?

Os ydych chi'n sefydliad sydd ag ateb arloesol mewn perthynas â’r heriau ym maes gofal iechyd, hoffem glywed gennych. Gweler weld ein hamcanion a'n blaenoriaethau strategol isod.

  1. Gwella Canlyniadau Cleifion a Gwella Profiad Cleifion a Rhoddwyr: Datblygu a gweithredu triniaethau arloesol a llwybrau gofal sy'n gwella cyfraddau goroesi cleifion, ansawdd bywyd, a phrofiad cyffredinol cleifion i gleifion a rhoddwyr.
  2. Gwella Effeithlonrwydd Gweithredol: Defnyddio arloesedd i symleiddio prosesau, lleihau costau, a gwella effeithlonrwydd darparu gwasanaethau.
  3. Cryfhau Cydweithio: Adeiladu partneriaethau strategol gyda sefydliadau academaidd, diwydiant, y trydydd sector, sefydliadau cymorth y llywodraeth / llywodraethol a sefydliadau gofal iechyd eraill i gyflymu arloesedd.
  4. Creu Diwylliant o Arloesedd: Annog diwylliant o arloesi ymhlith staff trwy ddysgu parhaus, anogaeth a chefnogaeth ar gyfer mentrau creadigol.

Sut i gysylltu

Arloesi Felindre @ Velindre.Innovation@wales.nhs.uk