Mae ymchwil yn helpu i wella iechyd y cyhoedd a gwybodaeth sy'n gwella gofal cleifion, yn ogystal â datblygu triniaethau yn y GIG a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Mae'r tîm Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cefnogi datblygu prosiectau ymchwil o ansawdd uchel o fewn yr Ymddiriedolaeth, ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u rheoli i safon wyddonol a moesegol uchel.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwasanaethau eang, cymhleth ac arbenigol iawn yn aml, am ei thechnoleg o'r radd flaenaf, am ei staff clinigol ac anghlinigol medrus iawn ac am ei hymchwil arloesol.
Ar hyn o bryd, mae Felindre yn cynnal ac yn noddi cymysgedd cytbwys o astudiaethau masnachol ac anfasnachol ar draws ystod amrywiol o feysydd ymchwil. Mae ein portffolio yn cynnwys gofal rhoddwyr gwaed, meddyginiaeth trallwyso a thrawsblannu, treialon clinigol canser, gofal lliniarol a chefnogol, ac astudiaethau ymchwil gofal iechyd.
Os ydych yn ystyried cymryd rhan mewn prosiect ymchwil gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, cysylltwch â'r swyddfa Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
E-bost: Velindre.R&DOffice@wales.nhs.uk
Ffôn: 02920 615888 estyniad 4442