YMDDIRIEDOLAETH GIG PRIFYSGOL FELINDRE
WF 16 POLISI’R GYMRAEG
Noddwr Gweithredol a Swyddogaeth: Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
Awdur y Ddogfen: Rheolwr y Gymraeg
Cymeradwywyd gan: Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
Dyddiad Cymeradwyo: 30 Mai 2023
Dyddiad yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb: asesiad gwreiddiol Ebrill 2019
Canlyniad yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Derbyniwyd
Dyddiad Adolygu: Mai 2025
Fersiwn: 5
1. Datganiad Polisi
Mae’r polisi hwn yn bodloni gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n gyfarwyddyd sydd wedi’i osod yn hysbysiad Cydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg yr Ymddiriedolaeth a dderbyniwyd ym mis Tachwedd 2018, â'i nod yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Datganiad cenhadaeth Iaith Gymraeg yr Ymddiriedolaeth yw:
"Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dathlu'r Gymraeg a'i phwysigrwydd diwylliannol i Gymru. Fel sefydliad gofalgar sy'n hyrwyddo ac yn deall y gwerth o fodloni anghenion cyfathrebu, byddwn yn darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn cynllunio'n ofalus ar gyfer popeth a wnawn. "
2. Cwmpas y Polisi
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r HOLL staff.
Wrth weithredu safonau’r Gymraeg a'r polisi hwn, mae'n bwysig bod yr Ymddiriedolaeth yn hunanreoleiddio, gan mai'r Ymddiriedolaeth sydd â'r dyletswyddau terfynol i gydymffurfio â rheoliadau Safonau’r Gymraeg.
Gallai methu â chydymffurfio â'r polisi hwn a Safonau’r Gymraeg arwain at gosbau ariannol i'r Ymddiriedolaeth, ac at bardduo ei henw da.
3. Nodau ac Amcanion
Ein nodau ar gyfer cyflawni Safonau’r Gymraeg drwy’r polisi hwn yw:
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn blaenoriaethu darpariaeth gwasanaethau i gleifion a rhoddwyr
- Ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
- Bydd staff yn cael eu cefnogi i gyflwyno Safonau’r Gymraeg
- Bydd gan y sefydliadau sydd yn cael eu lletya (NWSSP, NWIS a HTW) drefniadau lleol ar waith i gyflwyno’r Safonau, a bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro.
4. Cyfrifoldebau
Yn y pen draw, mae POB aelod o staff yn gyfrifol am gyflawni nodau ac amcanion y polisi hwn, ond y Prif Weithredwr a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth sy'n goruchwylio'r polisi.
Mae’n rhaid i reolwyr sicrhau bod y polisi'n cael ei ledaenu a'i ddeall gan staff, a rhaid i unrhyw geisiadau am gyfleoedd hyfforddi gael eu cefnogi gan reolwyr, er mwyn cynyddu'r sgiliau iaith sydd ar gael ar draws yr Ymddiriedolaeth.
5. Diffiniadau
- PCGC - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru 2020
- HTW - Technoleg Iechyd Cymru
Er mwyn gwneud darllen y Safonau yn haws
http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/441/pdfs/wsi_20180441_mi.pdf
Nodwch y diffiniadau canlynol:
- Person – Cydweithiwr o Fwrdd Iechyd arall, Ymddiriedolaeth, Llywodraeth Cymru neu Awdurdod Lleol, ac sy’n cynnwys claf, rhoddwr neu ddinesydd Cymru.
- Unigolyn – Claf, rhoddwr neu ddinesydd Cymru.
- Y cyhoedd- pob aelod o’r Cyhoedd, aelod o'r cyhoedd sydd ddim yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre mewn capasiti ‘unigol '.
6. Gweithredu a Chydymffurfio
Gan adlewyrchu’r meysydd a nodwyd o fewn Safonau’r Gymraeg, bydd yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar bum prif faes:
1. Cyflenwi Gwasanaethau: Safonau 1-64 (Nid yw Safonau Gofal Sylfaenol yn berthnasol)
2. Llunio Polisi: 69-77 (Nid yw Safonau Gofal Sylfaenol yn berthnasol)
3. Safonau Gweithredu: Safonau 79-114
4. Cadw Cofnodion Safonau 115-117
5. Safonau Atodol: 118-121
Mae Atodiad 1 o’r Polisi yn dangos sut y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio o fewn y pum maes hyn ac o fewn gofynion Safonau’r Gymraeg.
7. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Cwblhawyd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ym mis Ebrill 2019, ac ni thynnwyd sylw at unrhyw feysydd gweithredu ychwanegol
Atodiad 1:
1. Cyflenwi Gwasanaethau
Gohebiaeth Ysgrifenedig
- Mae gan y cyhoedd hawl i gyfathrebu â'r Ymddiriedolaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os bydd yr Ymddiriedolaeth yn derbyn gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg gan aelod o'r cyhoedd, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymateb yn Gymraeg, oni bai bod y gohebydd wedi nodi’n wahanol.
- Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynnwys troednodyn ar ei gwaith papur, yn nodi y croesewir gohebiaeth yn Gymraeg, a bydd yn cynghori staff i gydnabod y datganiad hwn fel rhan o'i gohebiaeth uniongyrchol.
- Os bydd person yn cysylltu â'r Ymddiriedolaeth am y tro cyntaf, drwy e-bost, bydd staff yn cynnwys llofnod e-bost yn gofyn am iaith ddewisol y person, ac yn defnyddio'r wybodaeth a dderbynnir i gyfathrebu o hynny ymlaen, yn iaith ddewisol y person hwnnw.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn hapus i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg neu’r Saesneg. Ni fydd derbyn gohebiaeth yn Gymraeg yn achosi unrhyw oedi. A fyddech cystal â gwneud eich anghenion Iaith yn glir i ni ar ôl derbyn yr e-bost hwn a gallwn gynllunio ein Cyfathrebu yn unol â hynny.
Cyfathrebu dros y Ffôn o brif linell ffôn
- Bydd staff sy'n ateb y ffôn ar brif linell e.e. y llinell ffôn a hysbysebir yn allanol, yn ateb y ffôn yn ddwyieithog bob amser, ac yn defnyddio
- ‘Bore da ' neu 'Prynhawn da ' yn ôl yr angen, ac yna, enw'r Ymddiriedolaeth (gall staff gael gwybodaeth am hyn drwy ddogfen ganllawiau fewnol)
- Os bydd galwr yn gofyn am wasanaeth Cymraeg, bydd staff y gwasanaeth yn esbonio bod y gwasanaeth hwn ar gael, ac os nad ydynt yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg, byddant yn rhoi gwybod i'r galwr y gallant ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu i barhau â'r alwad, neu barhau â'r alwad yn Saesneg os oes angen trafodaeth ar bwnc penodol.
- Pan fyddwn yn hysbysebu rhifau ffôn, byddwn yn hysbysebu'r llinellau Cymraeg a Saesneg sydd ar gael, ac yn darparu'r wybodaeth hon fel rhan o'n cyhoeddusrwydd.
Cyfathrebu dros y Ffôn o linell uniongyrchol i aelod o staff
- Ar gyfer galwadau a wneir i linellau uniongyrchol yn yr Ymddiriedolaeth, unwaith eto, bydd staff yn ateb y ffôn yn ddwyieithog a chyfarch y galwr, ac yn dilyn yr un protocol ag y nodwyd ar gyfer y prif linellau ffôn.
- Bydd staff yn cael eu hannog i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, beth bynnag eu lefelau neu alluoedd, er mwyn cefnogi iaith ddewisol y sawl sy'n galw.
- Os bydd staff eisiau defnyddio’r peiriant ateb ar eu ffôn, bydd y neges yn ddwyieithog, a bydd staff yn cael eu hysbysu am y broses o recordio a chasglu neges ddwyieithog yn defnyddio dogfen ganllawiau fewnol.
Galwadau ffôn sydd yn cael eu cychwyn gan yr Ymddiriedolaeth
- Bydd staff sy'n cyfathrebu â pherson am y tro cyntaf yn gofyn a ydynt eisiau defnyddio'r Gymraeg mewn gohebiaeth yn y dyfodol. Bydd cofnod o'r dymuniad hwnnw yn cael ei gadw a'i ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth ynghylch iaith y galwadau gyda'r person hwnnw yn y dyfodol.
Cyfarfodydd sydd yn cael eu Trefnu gan yr Ymddiriedolaeth
- Wrth wahodd un person i gyfarfod, byddwn yn gofyn i'r person hwnnw a yw'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu. Os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac eraill yn y cyfarfod hwnnw yn methu â chyfathrebu yn Gymraeg, yna byddwn yn trefnu cyfieithu ar y pryd ar gyfer y person hwnnw. Yn yr un modd, os bydd 10% o'r bobl a wahoddir i'r cyfarfod hwnnw eisiau cyfathrebu yn Gymraeg a staff yn y cyfarfod hwnnw yn methu â hwyluso'r dymuniad hwnnw, eto, bydd gwasanaethau cyfieithu yn cael eu defnyddio.
- Bydd staff yn cael eu cynghori bod rhaid iddynt ofyn beth yw iaith ddewisol person cyn cyfarfod bob amser.
- Wrth wahodd dim ond un person i gyfarfod, byddwn yn gofyn i'r person hwnnw a yw'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu yn y cyfarfod. Os yw’r person yn dymuno gwneud hynny, bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Gymraeg neu os bydd angen, byddwn yn trefnu gwasanaethau cyfieithu.
- Wrth wahodd mwy nag un person i gyfarfod, byddwn yn gofyn i bob person a ydynt yn dymuno defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu yn y cyfarfod. Os bydd o leiaf 10% (ond llai na 100%) o'r personau a wahoddwyd yn dweud wrthym eu bod yn dymuno defnyddio'r Gymraeg, byddwn yn trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Digwyddiadau cyhoeddus
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn hysbysebu digwyddiadau cyhoeddus yn ddwyieithog, a bydd yr holl ddeunyddiau ar gyfer y digwyddiad ar gael yn ddwyieithog.
- Bydd staff yn sicrhau y gofynnir am iaith ddewisol person cyn y digwyddiad ac os bydd y cyhoedd yn cael cyfrannu, bydd staff yn gwneud yn siŵr y bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn y digwyddiad hwnnw. Bydd mynychwyr yn gorfod nodi eu hiaith ddewisol cyn y digwyddiad, ac ni fydd anghenion cyfathrebu yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol nag anghenion cyfathrebu yn Saesneg.
- Pe bai'r Ymddiriedolaeth yn ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, byddwn yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Byddwn yn gofyn i siaradwyr yn y digwyddiad cyhoeddus a ydynt eisiau cyflwyno yn Gymraeg ac os felly, bydd staff yn sicrhau bod hyn yn bosibl, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei drefnu ar gyfer mynychwyr.
Cyhoeddiadau a Ffurflenni, yn cynnwys deunyddiau i gleifion a rhoddwyr
- Bydd pob dogfen a ffurflen sydd angen cael eu llenwi gan unigolyn (e.e. ffurflen ganiatâd ar gyfer triniaeth) neu sydd ar gael i un neu fwy o unigolion, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol o ran eglurder neu faint, ac ni fyddwn yn gwahaniaethu rhwng y fersiwn Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag unrhyw ofynion sy'n berthnasol i'r ddogfen neu'r ffurflen e.e. dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen neu raddfa amser ar gyfer ymateb.
- Wrth gynllunio ffurflen neu ddogfen, bydd staff yn cael gwybod am y Canllawiau Dylunio Dwyieithog a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/hybu/cy/guidelines/Pages/guidelines.aspx
- Bydd yr holl hysbysebion mewn mannau cyhoeddus yn cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog, neu bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn cael eu creu.
Gwefannau, cyfrifon cyfryngau Cymdeithasol ac Apiau
- Bydd gwefannau’r Ymddiriedolaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a byddant ar gael i'r defnyddiwr yn y ddwy iaith.
- Ni fydd gwefannau’r Ymddiriedolaeth yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Bydd cyfrifon cyfryngau Cymdeithasol corfforaethol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac os fydd cwestiwn yn cael ei ofyn yn Gymraeg, bydd ymateb yn cael ei roi yn Gymraeg.
- Bydd yr holl Apiau a gyhoeddir gan yr Ymddiriedolaeth yn gwbl weithredol yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, ar wahân i apiau clinigol ar gyfer staff
Arwyddion
- Bydd yr holl arwyddion newydd, (o fis Mai 2019), gan gynnwys arwyddion dros dro neu hysbysiadau arddangos, yn cyfleu'r un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Bydd testun Cymraeg ar arwyddion a hysbysiadau yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
Derbynfa
- Bydd staff sy'n siarad Cymraeg yn dangos hynny drwy wisgo cortyn o amgylch eu gyddfau neu fathodyn pin. Bydd aelodau o staff sy'n dysgu Cymraeg yn dangos hynny hefyd, er mwyn cefnogi cleifion neu roddwyr sydd angen gwasanaeth Cymraeg.
- Bydd staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn cefnogi cleifion a rhoddwyr sydd angen gwasanaeth Cymraeg, ac os na fydd aelod o staff sy'n siarad Cymraeg ar gael, bydd staff yn ymwybodol y gallant gael mynediad at gymorth iaith drwy’r gwasanaeth ' llinell iaith', sef gwasanaeth cymorth cyfieithu.
- Mae gwybodaeth am y ' llinell iaith ' ar gael i staff drwy ddogfen ganllawiau ar gyfer pob aelod o staff.
- Bydd pob ardal derbynfa yn arddangos arwydd sy'n datgan bod croeso i gleifion neu roddwyr ddefnyddio'r Gymraeg wrth y dderbynfa.
Tendro
- Os bydd pwnc y contract yn mynnu y dylid ei gyhoeddi yn Gymraeg, yna bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau na fydd yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Pan gyhoeddir gwahoddiad am dendr, bydd yr Ymddiriedolaeth yn datgan y gellir cyflwyno tendrau yn Gymraeg. Os cyflwynir tendr o'r fath, ni fydd yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr yn Saesneg. E.e. amserlenni ar gyfer derbyn tendrau ac ar gyfer rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau.
Hyrwyddo’r Gymraeg
- Bydd hyrwyddo'r Gymraeg yn weledol fel rhan o hunaniaeth yr Ymddiriedolaeth, ac fel rhan o unrhyw wasanaeth a ddarparwn.
- Bydd deunyddiau cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg ar gael yn Gymraeg.
- Os fydd yr Ymddiriedolaeth yn rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaeth iaith Saesneg sy'n cyfateb i wasanaeth Cymraeg, byddwn yn nodi ar y deunyddiau hyrwyddo Saesneg bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i hyrwyddo digwyddiadau fel Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod - Santes Dwynwen ac ati.
2. Safonau Llunio Polisi
Datblygu Polisïau
- Bydd unrhyw bolisi newydd a gaiff ei lunio, ei adolygu neu ei ddiwygio gan yr Ymddiriedolaeth (o 30 Mai 2019), yn ystyried yr effeithiau y mae'r polisi yn eu cael ar:
a) Y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar
b) Beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Pan fydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi dogfen ymgynghori yn ymwneud â phenderfyniad ar bolisi, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried ac yn gofyn am farnau ar a) a b) uchod, ac ar c) sut y gellir llunio neu ddiwygio'r polisi fel na fyddai'n cael effaith anffafriol ar y defnydd o'r Gymraeg
- Bydd hyn yn rhan o'r broses o Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Pan fydd ymchwil yn cael ei gomisiynu neu ei gyflawni er mwyn helpu i ddatblygu penderfyniad ar bolisi, bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau ei bod yn ystyried sut y byddai'n cael effeithiau cadarnhaol ar a) a b) uchod.
Safonau Gweithredu
- Os cynigir swydd i unigolyn, bydd yr Ymddiriedolaeth yn gofyn a oes angen contract cyflogaeth Cymraeg arnynt ac os mai dyna yw dewis yr unigolyn, yna bydd yr Ymddiriedolaeth yn darparu’r contract hwnnw yn Gymraeg.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn datgan ar ei gohebiaeth fewnol â staff, os bydd staff yn dymuno cael unrhyw ohebiaeth ar bapur sy'n ymwneud â'u cyflogaeth yn Gymraeg, y bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau bod hyn ar gael. Bydd pob dogfen arall sy'n ymwneud â chyflogaeth ar gael drwy'r cofnod staff electronig.
- Os bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi unrhyw rai o'r polisïau canlynol, byddwn yn eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg:
- Ymddygiad yn y Gweithle
- Iechyd a Lles yn y gwaith:
- Cyflogau a Buddion yn y Gwaith
- Rheoli Perfformiad
- Absenoldeb o'r Gwaith
- Amodau Gweithio
- Patrymau Gweithio
Cwynion a Materion Disgyblu
- Gall staff sy’n dymuno gwneud cwyn wneud hynny yn Gymraeg, ac os gwneir cwyn yn Gymraeg, bydd ateb yn cael ei roi yn Gymraeg
- Bydd dogfennau’r Ymddiriedolaeth sy'n nodi'r gweithdrefnau cwyno a disgyblu yn nodi y gall aelod o staff sy'n siarad Cymraeg wneud cwyn neu ddisgyblu yn Gymraeg
- Os bydd angen cyfarfod ag aelod o staff mewn perthynas â chwyn, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ei gwneud yn glir bod gan siaradwr Cymraeg yr hawl i gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn trefnu hyn drwy ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd os nad oes aelod o staff sy'n siarad Cymraeg ar gael, neu sydd â sgiliau penodol i ddelio â'r gŵyn honno.
- Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar gŵyn neu broses ddisgyblu, yna bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynhyrchu hyn yn Gymraeg os yw'r broses wedi cael ei chynnal yn Gymraeg.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cadw cofnod o bob cwyn a dderbynnir yn erbyn cydymffurfio â'r Safonau
CYFEIRIWCH AT BROSES PRYDERON A CHWYNION YR YMDDIRIEDOLAETH - ‘Gweithio i wella’.
Gellir cyflwyno unrhyw gŵyn yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg ochr yn ochr ag unrhyw gŵyn fewnol.
Mewnrwyd yr Ymddiriedolaeth
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn darparu tudalen benodol ar y fewnrwyd ar gyfer staff, er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
- Bydd tudalen Hafan mewnrwyd yr Ymddiriedolaeth ar gael yn Gymraeg, a bydd tudalennau penodol sy'n ymwneud â darpariaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ar gael yn Gymraeg hefyd.
- Os fydd aelod o staff sy'n siarad Cymraeg angen y meddalwedd gwirio sillafu a gramadeg, bydd hwn ar gael i'w lawrlwytho ar y safle mewnrwyd neu drwy alw’r pwynt gwasanaeth.
Hyfforddiant a Datblygu
- Mae sgiliau iaith Gymraeg staff yn cael eu hasesu drwy'r lefelau cymhwysedd ar y cofnod staff electronig (ESR), a gellir diweddaru'r sgiliau hyn yn unol â hyfforddiant a datblygiad staff.
- Bydd cyfleoedd i staff dderbyn hyfforddiant iaith Gymraeg yn ystod oriau gwaith yn cael eu darparu naill ai drwy hyfforddiant ar-lein neu drwy fynychu cyrsiau penodol yn yr ystafell ddosbarth.
- Mae staff yn cael cyfleoedd i dderbyn sesiynau ymwybyddiaeth iaith Gymraeg fel rhan o'r rhaglenni hyfforddi statudol a gorfodol
- Mae geiriad e-bost yn cael ei ddarparu i staff fel rhan o ganllaw a ysgrifennwyd i gefnogi staff i ddarparu gwasanaeth dwyieithog
- Mae staff yn cael eu hannog i ddangos eu bod nhw’n siarad neu’n dysgu Cymraeg, ac maen nhw’n derbyn naill ai cortyn o amgylch y gwddf neu fathodyn i ddangos hyn ac i gefnogi cleifion a rhoddwyr.
Recriwtio
- Drwy ddefnyddio Strategaeth Sgiliau Dwyieithog yr Ymddiriedolaeth, bydd staff yn asesu gofynion iaith swyddi newydd, ac yn categoreiddio swyddi fel a ganlyn:
- Mae siarad Cymraeg yn Hanfodol
- Mae siarad Cymraeg yn Ddymunol
- Mae angen dysgu sgiliau Cymraeg neu
- Nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol
- Os bydd y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol fel rhan o swydd, neu os bydd angen dysgu Cymraeg, bydd yr Ymddiriedolaeth yn nodi hynny fel rhan o’r hysbyseb.
- Bydd swyddi'n cael eu hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg, a bydd ateb yn cael ei roi yn Gymraeg os bydd cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
- Bydd ceisiadau am swyddi yn nodi’n glir y gall ymgeisydd gynnal ei gyfweliad yn Gymraeg, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
- Bydd ffurflenni cais ar gyfer swyddi a deunyddiau dilynol, gan gynnwys swydd ddisgrifiadau, yn cael eu cyhoeddi’n Gymraeg, ac ni fydd y fersiynau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r fersiynau Saesneg o'r dogfennau hynny.
- Bydd angen cwblhau ffurflen asesu’r Gymraeg cyn hysbysebu, a'i rhannu gyda'r Gweithlu a Rheolwr y Gymraeg
Ymgynghoriadau Clinigol
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi cynllun bob 5 mlynedd, yn nodi i ba raddau rydym yn gallu cynnal ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg.
- Bydd y cynllun yn rhoi manylion am y camau y mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu eu cymryd i gynyddu'r gallu i gynnig y gwasanaeth hwn, ac amserlen ar gyfer ei weithredu.
- Bydd asesiad o lwyddiant y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi, dair blynedd ar ôl ei ddatblygu, a bydd yr asesiad yn cael ei gyhoeddi.
Arwyddion
- Mae’n rhaid i arwyddion newydd yn y gweithle, gan gynnwys arwyddion dros dro, gyfleu'r un wybodaeth yn Gymraeg a Saesneg, a bydd y Gymraeg yn cael ei gosod er mwyn ceisio sicrhau y bydd mwy o debygolrwydd y bydd yn cael ei darllen gyntaf.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn defnyddio'r canllawiau yn nogfen ddylunio Comisiynydd y Gymraeg, er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu ei harwyddion a'i harddangosiadau yn Gymraeg http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/hybu/en/guidelines/Pages/guidelines.aspx
Cadw Cofnodion a Materion Atodol
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cadw cofnod o:
- Nifer y gweithwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg, a lefel eu sgiliau
- Nifer y gweithwyr sy'n mynychu cwrs hyfforddi a'u lefelau cyflawniad
- Nifer y swyddi newydd a gwag lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu angen eu dysgu
- Bydd yn sicrhau ei bod yn cofnodi ac yn cyhoeddi Safonau’r Gymraeg y mae ganddi ddyletswydd i gydymffurfio â nhw
- Bydd yn cyhoeddi’r adran gwynion sy’n berthnasol i gydymffurfio â’r Safonau.
- Bydd yn adrodd yn flynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg ar ei Chydymffurfiaeth yn erbyn y Safonau
- Bydd yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei angen ar Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn asesu cydymffurfiaeth yr Ymddiriedolaeth â Safonau’r Gymraeg.