Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol sy'n cyflwyno canlyniadau rhagorol. Mae ein staff yn frwdfrydig dros ben, ac maen nhw’n gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau ymatebol o safon i gleifion a rhoddwyr. Mae ein hymchwil o safon fyd-eang, ac mae llawer o'n clinigwyr a'n gwyddonwyr yn arweinwyr yn eu maes, gydag enwau da rhyngwladol.
Mae Fframwaith Gwasanaethau, y Gweithlu ac Ariannol yr Ymddiriedolaeth, sef 'Darparu Ansawdd, Gofal a Rhagoriaeth' yn disgrifio sut y byddwn yn gwneud cynnydd pellach tuag at ein nodau, ac yn gwireddu ein gweledigaeth.