Neidio i'r prif gynnwy

Trawsnewid Is-bwyllgor Gwasanaethau Canser (TCS)

Pwrpas Is-Bwyllgor Craffu'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yw:

  • Darparu sicrwydd bod y trefniadau arwain, rheoli a llywodraethu yn ddigon cadarn i gyflawni canlyniadau a manteision y rhaglen.
  • Craffu ar gynnydd y rhaglen a darparu sicrwydd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth bod y gweithredu'n effeithiol, yn effeithlon ac o fewn y gyllideb sydd ar gael.
  • Ymgymryd ag unrhyw weithgarwch craffu arall sy'n ymwneud â'r Rhaglen TCS, yn unol â chyfarwyddyd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth neu'r Uwch Berchennog Cyfrifol.
  • Ceisio cyngor ac arweiniad gan Gynghorwyr Technegol priodol, yn ogystal â'r Mansachwr MIM (os yw'n ymwneud â’r Prosiect nVCC) i gynorthwyo'r Pwyllgor gyda'u gwaith craffu ar y Rhaglen TCS.
  • Darparu sicrwydd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ar bob agwedd ar y Rhaglen TCS mewn perthynas â chymeradwyaethau a geisir ar bob penderfyniad a gadwyd yn ôl ar gyfer y Bwrdd llawn.
  • Derbyn yr holl adolygiadau archwilio, gateway a sicrwydd sy'n ymwneud â'r rhaglen neu ei phrosiectau cyfansoddol, a darparu sicrwydd (neu fel arall) i'r Ymddiriedolaeth bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn unol â holl safonau proffesiynol ac ariannol yr Ymddiriedolaeth.
  • Darparu sicrwydd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth a chymorth i'r Uwch Swyddog Cyfrifol wrth nodi gweithgareddau cau TCS unwaith y bydd wedi cyflawni ei amcanion.

Lle y bo'n briodol, bydd y Pwyllgor yn cynghori Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a'r Swyddog Atebol ynghylch ble, a sut, y gellir cryfhau a datblygu ei system sicrwydd ymhellach.  Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl.

Dadlwythwch y Cylch Gorchwyl.