Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Datblygu Strategol yr Ymddiriedolaeth

Pwrpas y Pwyllgor Datblygu Strategol "y Pwyllgor" yw darparu:

  • Cyngor amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r Bwrdd, i'w gynorthwyo  i gyflawni ei swyddogaethau a bodloni ei gyfrifoldebau o ran:
  • cyfeiriad strategol
  • cynllunio strategol a materion cysylltiedig
  • datblygu sefydliadol
  • gwasanaethau digidol, ystadau a gwasanaethau galluogi eraill
  • datblygu cynaliadwy a gweithredu strategaeth drwy ysbryd a bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  • buddsoddi yn unol â gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth
  • Sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â gwneud penderfyniadau strategol, a sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi gan ddealltwriaeth gadarn o risgiau mewn perthynas â chyflawni nodau sefydliadol ac amcanion strategol.

Lle y bo'n briodol, bydd y Pwyllgor yn cynghori'r Bwrdd a'r Swyddog Atebol ynghylch ble, a sut, y gellir cryfhau a datblygu ei system sicrwydd ymhellach. 

Dadlwythwch y Cylch Gorchwyl.