Pwrpas y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Pherfformiad "y Pwyllgor" yw darparu:
- Cyngor amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r Bwrdd, i'w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau a bodloni ei gyfrifoldebau o ran:
- ansawdd, diogelwch a pherfformiad gofal iechyd;
- pob agwedd ar y gweithlu;
- darpariaeth ddigidol a llywodraethu gwybodaeth; a
- Sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â threfniadau'r Ymddiriedolaeth ar gyfer diogelu a gwella ansawdd, diogelwch a pherfformiad gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, materion yn ymwneud â'r gweithlu, darpariaeth ddigidol a llywodraethu gwybodaeth yn unol â'i amcanion datganedig, cyfrifoldebau deddfwriaethol a'r gofynion a'r safonau sydd yn cael eu pennu ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Dadlwythwch y Cylch Gorchwyl.