Rydym yn ymwybodol nad yw'r dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad i fformat arall, cysylltwch â velindre.communications@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd yma.
Pwrpas y Pwyllgor Datblygu Strategol "y Pwyllgor" yw darparu:
- Cyngor amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r Bwrdd, i'w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau a bodloni ei gyfrifoldebau o ran:
- cyfeiriad strategol
- cynllunio strategol a materion cysylltiedig
- datblygu sefydliadol
- gwasanaethau digidol, ystadau a gwasanaethau galluogi eraill
- datblygu cynaliadwy a gweithredu strategaeth drwy ysbryd a bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- buddsoddi yn unol â gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth
- Sicrwydd i'r Bwrdd mewn perthynas â gwneud penderfyniadau strategol, a sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi gan ddealltwriaeth gadarn o risgiau mewn perthynas â chyflawni nodau sefydliadol ac amcanion strategol.
Lle y bo'n briodol, bydd y Pwyllgor yn cynghori'r Bwrdd a'r Swyddog Atebol ynghylch ble, a sut, y gellir cryfhau a datblygu ei system sicrwydd ymhellach.
Dadlwythwch y Cylch Gorchwyl.
Cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Strategol
Cofnodion heb eu cadarnhau y Pwyllgor Datblygu Strategol yr Ymddiriedolaeth