Ein haddewid i’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu
Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre rydym yn falch o fod wedi ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog yn 2019. Dyma ein haddewid i’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, eu bod yn cael eu trin yn deg. Rydym wedi addo anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi eu cymuned trwy gydnabod gwerth Personél sy’n Gwasanaethu, Milwyr Rheolaidd a Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr a theuluoedd milwrol a’u cyfraniad i’n sefydliad a’n gwlad.
Byddwn yn sicrhau bod aelodau o’n cymuned Lluoedd Arfog yn derbyn cymorth i gael mynediad at yr un gwasanaethau ag unrhyw unigolyn arall.
Drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym wedi ymrwymo i gynnal yr egwyddorion allweddol, sef:
Enillodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Wobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn 2021. Darganfyddwch fwy.
Nodau gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yw annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyn ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn croesawu ceisiadau gan filwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr, gan gydnabod a gwerthfawrogi’r profiad ychwanegol a’r sgiliau trosglwyddadwy maent yn eu datblygu trwy eu hyfforddiant yn y lluoedd arfog a’u gyrfa filwrol, megis gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth, ymrwymiad, penderfyniad a hunanhyder.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Bolisi Milwyr Wrth Gefn sy’n eich cefnogi i ymgymryd â gofynion hyfforddi. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gyflogwr hyblyg, gan ddarparu mynediad at Bolisi Gweithio Hyblyg.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa yn amrywio o rolau gweinyddol/rheoli prosiect a rolau clinigol, gwyddonol a thechnegol yng Nghanolfan Ganser Felindre a Gwasanaethau Gwaed Cymru. Gellir dod o hyd i restr o'n swyddi gwag presennol hefyd ar NHS Jobs