Yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, rydyn ni bob amser yn ceisio dysgu o'ch profiadau. I wneud yn siŵr fod y broses o roi adborth yn syml, rydyn ni'n defnyddio ein system arolygu mewn dwy ffordd:
• Tabledi/llechi llaw ym mhob sesiwn rhoddwr
• Codau QR hawdd sy'n cysylltu ag arolygon ar-lein
Rydyn ni'n rhannu canlyniadau pob arolwg gyda’n tîm arwain a’n hadrannau, yn ogystal ag yn ein hadroddiadau chwarterol a blynyddol. Drwy wrando arnoch chi, gallwn ni ddathlu llwyddiannau, gweld meysydd lle gallwn ni wneud yn well, a chynllunio ffyrdd newydd o wella ein gwasanaethau.
Edrychwn ar y themâu cyffredin yn yr holl adborth a defnyddiwn yr wybodaeth honno i fynd i'r afael â phryderon. Trwy glywed gan ein rhoddwyr, gallwn ni wneud newidiadau ystyrlon sy'n adlewyrchu eich anghenion a'ch profiadau.
Dywedodd 2% o'r rhoddwyr a roddodd adborth trwy CIVICA eu bod yn anfodlon â'u profiad.
Yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, mae rheolwyr gweithredol wedi:
Bob mis mae tudalen fewnrwyd ein Wal Diolchgarwch yn cael ei diweddaru gyda'r negeseuon caredig diweddaraf sydd wedi eu rhannu â ni gan roddwyr. Mae'r negeseuon yn cydnabod y gwahaniaeth anhygoel y mae ein staff yn ei wneud.
Rydyn ni bob amser yn ceisio darparu'r gwasanaeth gorau posibl, ond rydyn ni'n gwybod weithiau na fydd pethau'n mynd cystal ag y dylen nhw. Os ydych chi'n anhapus ag unrhyw ran o'n gwasanaeth, rydyn ni am glywed gennych chi - mae eich adborth yn ein helpu ni i wella.
Gallwch godi pryder:
• Trwy siarad â ni wyneb yn wyneb
• Dros y ffôn neu lythyr
• Gyda chymorth ein tîm os oes angen
Rydym yn dilyn canllawiau Gweithio i Wella Cymru, sy’n golygu:
• Byddwn ni'n cydnabod eich pryder yn gyflym
• Byddwn ni'n edrych i mewn i beth ddigwyddodd yn drylwyr
• Byddwn ni'n agored ac yn glir ynghylch beth byddwn ni'n ei ddarganfod
• Byddwn ni'n dweud wrthych beth rydyn ni'n ei wneud i wella pethau
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024, cawsom ni 11 o gwynion - sy'n hafal i ryw 0.05% o roddwyr. Er mai nifer fach yw hwn, mae pob pryder yn bwysig i ni ac maen nhw'n ein helpu i ddysgu sut i wella ein gwasanaeth.
Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar eich pryderon ac wedi gwneud newidiadau allweddol i wella eich profiad fel rhoddwr:
Gwneud yn siŵr fod pawb yn aros yn ddiogel yw ein prif flaenoriaeth. Dyna pam rydyn ni'n annog ein staff i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau—neu ddamweiniau agos—drwy ein system rheoli digwyddiadau. Unwaith i ddigwyddiad gael ei adrodd, byddwn ni:
• yn ymchwilio i beth ddigwyddodd ar unwaith
• yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon uniongyrchol
• yn nodi ac yn trwsio unrhyw achosion sylfaenol i'w atal rhag digwydd eto
Rydyn ni hefyd yn rhannu’r pethau rydyn ni wedi eu dysgu gyda’r sefydliad cyfan ac yn olrhain tueddiadau i helpu i sbarduno gwelliannau. Pan fydd rhywbeth yn arwain at niwed cymedrol neu fwy difrifol, byddwn ni'n cymryd golwg agosach fyth, gan gynnal adolygiad ac ymchwiliad manwl i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein rhoddwyr a’n staff yn ddiogel.