Neidio i'r prif gynnwy
Sara Moseley

Cadeirydd

Amdanaf i

Cadeirydd

Ymunodd Sara â'r Ymddiriedolaeth ym mis Medi 2025. Mae ei chefndir proffesiynol ym meysydd cyfathrebu, ymgysylltu, polisi ac arweinyddiaeth. Sara oedd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac arweiniodd y proffesiwn yng Nghymru gan sefydlu a Chadeirio Comms Cymru, ar ôl dal swyddi cyfarwyddwyr tebyg ar gyfer ymddiriedolaeth GIG fawr yn Llundain ac Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol yn flaenorol.

Yn ddiweddar, mae Sara wedi gweithio fel arweinydd elusen, gan gynnwys Cyfarwyddwr Mind Cymru (lle mae hi'n dal i wirfoddoli) a Phrif Swyddog Gweithredol Menter Canser Moondance. Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae Sara wedi gwasanaethu fel Aelod Annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan ddyfnhau ei gwybodaeth am GIG Cymru. Mae ganddi hefyd brofiad fel Cadeirydd Tribiwnlys ar gyfer Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn byw yng Nghaerdydd, magwyd Sara yn Aberystwyth a symudodd yn ôl i Gymru i fagu ei dau o blant, sydd bellach yn oedolion ifanc. Mae ganddi brofiad uniongyrchol o wasanaethau lleol ac arbenigol fel gofalwr, gan werthfawrogi'r cyfraniad a'r gofal aruthrol y mae wedi'i weld yn ogystal â bod â'r awydd i wneud profiadau o ofal a mynediad iddo yn well ac yn decach.