Mae gan John gefndir uchel ei barch ym maes bancio corfforaethol gyda gyrfa hir ym Manc Barclays, lle bu'n gweithio mewn sawl uwch rôl gan gynnwys Pennaeth Cymru, Bancio Corfforaethol.
Ar hyn o bryd, mae ganddo rolau, gan gynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol yng Nghymdeithas Adeiladu Abertawe, lle mae'n Ddirprwy Gadeirydd, ac mae wedi gwasanaethu fel Aelod Annibynnol (Cyllid) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am yr wyth mlynedd diwethaf.
Fel aelod annibynnol, rôl John yw cyfrannu ei sgiliau a'i arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o feysydd. Mae ei brofiad helaeth ym meysydd llywodraethu ariannol ac arweinyddiaeth strategol yn dod â nifer o fanteision i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.