Tylino

Mae tylino yn ffordd o roi cefnogaeth i'r corff i wella'r ymdeimlad cyffredinol o lesiant, hyrwyddo ymlacio a gwella iechyd imiwnedd, wrth leihau poenau a thensiwn cyhyrol.

Cyflawnir hyn drwy roi strôcs hir, araf, ysgafn i'r corff gyda phwysau ysgafn, gan gynyddu llif y gwaed sy'n cludo ocsigen a maetholion i fwydo a chynnal iechyd cyhyrol. Wrth roi'r strôcs hyn, rydym hefyd yn tawelu'r system nerfol gan newid o "ymladd a ffoi" i "gorffwys ac atgyweirio".

Mae pob triniaeth wedi'i haddasu i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn ac yn gyffredinol mae'n well ei rhoi ar y cefn, y gwddf a'r ysgwyddau. Fodd bynnag, gall fod o fudd pan gaiff ei rhoi ar y dwylo, y breichiau a'r coesau.

Yn Felindre, defnyddir tylino fel arfer yn ein hapwyntiadau cleifion allanol oherwydd ymarferoldeb darparu triniaeth o'r fath ar y ward ac yn unedau cemotherapi.

Dylid nodi hefyd nad yw tylino bob amser yn briodol ar gyfer anghenion unigolyn.

Dylid defnyddio therapi cyflenwol ochr yn ochr ag unrhyw driniaeth feddygol gonfensiynol ac nid yn lle.