Cemotherapi

Beth yw cemotherapi?

Triniaeth ar gyfer mathau penodol o ganser yw cemotherapi sy’n defnyddio cyffuriau gwrth-ganser neu ‘sytotocsig'. Mae’r cyffuriau’n helpu i ddinistrio celloedd canser (gan gynnwys lewcemia a lymffoma). 

Ar hyn o bryd mae dros 50 o wahanol gyffuriau’n bodoli i’w defnyddio ym maes cemotherapi. Caiff y cyffuriau eu defnyddio’n unigol neu wedi’u cyfuno gydag eraill i ffurfio’r hyn a elwir yn gemotherapi ‘cyfunol’ 

Gall y math o gemotherapi a roddir ddibynnu ar lawer o bethau gan gynnwys:

  • y math o ganser sydd arnoch
  • yn lle mae’r canser yn eich corff
  • strwythur microsgopig y celloedd canser
  • a yw’r canser wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff

Sut mae cemotherapi’n gweithio?

Mae cemotherapi’n gweithio drwy ddinistrio’r celloedd sy’n tyfu ac sy’n ymrannu. Nod y cyffuriau mewn cemotherapi yw lladd mwy o gelloedd canser na chelloedd iach. Fodd bynnag, mae cemotherapi’n difrodi rhywfaint o gelloedd iach.

Sut gellir rhoi cemotherapi?

Gellir rhoi cemotherapi mewn nifer o wahanol ffyrdd; y dulliau mwyaf arferol yw:

  • Rhoi pigiad i mewn i wythïen gan ddefnyddio drip
  • Trwy’r geg fel tabled neu hylif
  • Trwy bwmp bach, sy’n rhoi’r cemotherapi trwy lein arbennig o’r enw PICC neu lein Hickman (caiff y pwmp ei gario mewn bag bach a wisgir o gwmpas eich canol)

Rhai golygfeydd rhithwir 360 gradd o'n hardaloedd triniaeth cemotherapi isod.

Uned Diwrnod Cemotherapi

Uned Dydd Rhosyn

Uned Dydd Rhosyn