Darparwr o fri rhyngwladol o wasanaethau clinigol eithriadol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn rhagori arnynt
Gwyliwch Jacinta Abraham, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, yn esbonio'r nod strategol hwn...
Ein hamcanion yw:
- cyflawni safonau gofal a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sy'n cyd-fynd â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg
- bod yn bartner dibynadwy a dylanwadol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd lleol gwych sy'n diwallu angen
- dod yn 'ganolfan rhagoriaeth' ac yn ddarparwr blaenllaw ar draws y DU ar gyfer y gwasanaethau tra arbenigol a ddarparwn
- dod yn arweinydd system yn ein meysydd arbenigedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- nodi ystod o wasanaethau newydd y gallai'r Ymddiriedolaeth eu darparu i wella ansawdd, profiad a chanlyniadau ledled Cymru
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy:
- darparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio â'r holl safonau statudol a phroffesiynol
- gweithredu'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol i wella ansawdd, profiad a chanlyniadau'r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus
- gweithredu ein strategaeth ymgysylltu â chleifion/rhoddwyr/dinasyddion i glywed yn barhaus yr hyn y mae pobl ei angen ac yn ei werthfawrogi o’n gwasanaethau
- cyd-ddylunio modelau gofal mewn partneriaeth â phobl o bob rhan o’r cymunedau gyda’r nod o wella mynediad at ein gwasanaethau a darparu gofal yn y cartref neu’n agos i’r cartref lle bynnag y bo’n briodol ac yn ddymunol
- gweithio gyda'r gymuned a'n partneriaid i leihau anghydraddoldebau mewn gofal iechyd
- mabwysiadu’n gyflym ganlyniadau ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad gofal cleifion a rhoddwyr
- datblygu a gweithredu ein strategaethau clinigol a gwyddonol a fydd yn nodi pa wasanaethau y byddwn yn eu darparu dros y deng mlynedd nesaf; canolbwyntio ein cynnig ar ddarparu gwasanaethau y credwn y gallwn ddod yn arbenigwyr blaenllaw ynddynt
- cytuno â’n partneriaid yn y Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru ar y rolau arwain systemau y byddwn yn eu cyflawni er mwyn sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i’n cleifion, rhoddwyr a phartneriaid
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gynllunio, ariannu a darparu adeiladau, cyfleusterau a thechnoleg o safon fyd-eang ar gyfer cleifion, rhoddwyr a staff
- meincnodi ein perfformiad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i weld sut rydym yn perfformio yn erbyn ein cymheiriaid ac i nodi dysgu a gwelliant
Gwyliwch Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, yn esbonio'r nod strategol hwn...