Neidio i'r prif gynnwy

Nod Strategol 1

 

Eithriadol o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad

     

    Gwyliwch Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd, yn esbonio'r nod strategol hwn...

    Ein hamcanion yw:

    • darparu gofal heb niwed, y canlyniadau gorau a phrofiad gwych i gleifion a rhoddwyr

    • gwrando ar brofiadau cleifion a rhoddwyr o'n gofal, a dysgu oddi wrthynt, er mwyn ysgogi gwelliant parhaus

    • bod yn sefydliad sy’n dangos Arweinyddiaeth Dosturiol yn gyson ym mhopeth a wnawn

    • cael ein cydnabod yn ‘eithriadol’ gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, yr Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a chymheiriaid yn y DU ac yn rhyngwladol am y gwasanaethau a ddarparwn

    Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy:

    • gweithredu gofynion Deddf Ansawdd ac Ymgysylltu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • gweithredu fframwaith rheoli ansawdd a diogelwch a fydd yn llywio pob cam a gymerwn a phob penderfyniad a wnawn
    • darparu’r rhaglen genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Dosturiol ar draws y sefydliad.
    • parhau i ddatblygu diwylliant a arweinir gan ansawdd sy'n gyrru'r safonau uchaf o ofal a diogelwch ac sy'n sicrhau bod yr holl staff yn byw'r ethos mai 'y safon yr ydych yn cerdded heibio yw'r safon a osodwyd gennym'.
    • cael y pethau sylfaenol yn iawn drwy wella mynediad a thrafnidiaeth i'n gwasanaethau; lleihau'r angen am siwrneiau am ofal a gwella meysydd parcio a chludiant cyhoeddus os oes rhaid i chi ymweld â ni
    • parhau i ddatblygu diwylliant agored, tryloyw, cyfiawn sy'n dysgu sy'n caniatáu i ragoriaeth ffynnu
    • Datblygu rhaglen gofal iechyd seiliedig ar werth sy’n ein cefnogi i leihau amrywiadau ac aneffeithlonrwydd clinigol direswm, gan ddefnyddio arfer gorau fel ein meincnod.
    • darparu addysg, hyfforddiant a chymorth i staff ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gwella sy'n llywio safonau ansawdd a diogelwch
    • datblygu ein fframwaith rheoli perfformiad i adrodd ar ein perfformiad o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad mewn ffordd syml er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu gweld yn hawdd sut rydym yn gwneud
    • meincnodi ansawdd, diogelwch a phrofiad ein gwasanaethau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i nodi dysgu a gwelliant