Wrth i'r prosiect barhau i ddatblygu, efallai y byddwn yn gofyn a ydych chi'n fodlon rhoi adborth. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan os yw'n well gennych beidio, ond rydym yn teimlo y bydd eich adborth yn ein helpu i wella profiad cleifion yn y dyfodol.
Efallai y byddwn hefyd yn casglu data ynghylch a yw'r band arddwrn wedi cael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd brys proffesiynol ac a oedd y wybodaeth sydd ar gael iddynt yn ddefnyddiol.
Ein nod yw bod y wybodaeth gywir ar gael, i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir, ar yr amser cywir. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y dyfodol am hyn, cysylltwch â'ch tîm oncoleg neu'ch tîm band arddwrn QR.