Mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar weinydd proffesiynol diogel sy'n eiddo i gwmni yn y DU sy'n arbenigo mewn bandiau arddwrn cod QR. Dim ond gweithwyr y cwmni ar gyfer dyletswyddau gweinyddol, chi'ch hun a thîm y prosiect all gael mynediad at y wybodaeth. Ni chaiff gwybodaeth o'r gweinydd ei throsglwyddo i unrhyw systemau eraill. Nid yw'n cysylltu â chofnodion y GIG. Fel hyn rydym yn gwybod bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac ar gael i helpu yn eich gofal.
I gael mynediad at eich gwybodaeth, gallwch sganio'r cod QR, ychwanegu'r PIN 4 digid a'i ddarllen ar unrhyw adeg. Os ydych chi am newid unrhyw wybodaeth, fodd bynnag, bydd angen i chi gysylltu â'ch tîm gofal iechyd yn Felindre i'ch helpu i wneud hyn.
Chi sy'n berchen ar yr holl wybodaeth a ddangosir ar wefan y cod QR a gallwch ei dangos i deulu neu ffrindiau os dymunwch.
Preifatrwydd Data: Bydd eich gwybodaeth feddygol yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac yn ddiogel.
Os ydych chi am wirio eich hawliau gwybodaeth gyda'r cyflenwr trwy ei Hysbysiad Preifatrwydd, gellir cael mynediad at hyn trwy https://onelifeid.com/page/terms_and_conditions#privacy.
Os hoffech drafod unrhyw bryderon ynghylch sut mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn prosesu eu data, gellir cael mynediad at hyn drwy: https://velindre.nhs.wales/use-of-site/privacy-policy/.