Prif Swyddog Weithredwr Dros Dro
Prif Swyddog Weithredwr Dros Dro
Carl James yw’r Prif Swyddog Weithredwr Dros Dro. Mae wedi bod yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ers 2013.
Mae wedi gweithio ar draws y sector cyhoeddus mewn awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a Llywodraeth Cymru, lle mae wedi bod yn gyfrifol am arwain newid er mwyn darparu gwasanaethau gwell i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Yn ystod ei amser yn Felindre, mae wedi bod yn gyfrifol am gynllunio strategol, trawsnewid gwasanaethau, ystadau a phrosiectau cyfalaf mawr, rheoli perfformiad a chynaliadwyedd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne Ddwyrain Cymru, sy'n ceisio darparu gwell gwasanaethau a chyfleusterau i gleifion ar draws De Ddwyrain Cymru.
Mae gan Carl radd mewn daearyddiaeth wleidyddol, MSC mewn Polisi a'r Gyfraith Amgylcheddol, MSC mewn Rheoli Adnoddau Dynol Strategol ac MBA mewn Rheoli Busnes. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Creu Newid iddo gan Ysgol Fusnes Prifysgol Warwick, lle mae’n astudio ar gyfer Diploma Gweithredol mewn Arweinyddiaeth Ddigidol. Mae ganddo angerdd dros chwaraeon, ac mae’n mwynhau rygbi, criced, pêl-droed, seiclo a sboncen a chefnogi achosion elusennol. Mae wedi codi £25,000 ar gyfer Elusen Ganser Felindre hyd yn hyn.