Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal drwy fodel canolfan a lloeren, sydd wedi’i gynllunio i gadw arbenigedd arbenigol wrth galon y gwasanaeth gan ddod â gofal yn nes at gleifion lle bynnag mae'n bosibl.
Canolfan Ganser Felindre yn yr Eglwys Newydd yw ein prif ganolfan, lle mae gofal cymhleth ac arbenigol yn cael ei ddarparu. Oddi yno, mae ein gwasanaethau’n ymestyn allan i’r gymuned drwy rwydwaith o ganolfannau lloeren. Mae rhai o’r lleoliadau hyn yn darparu triniaeth, gan gynnwys cemotherapi a radiotherapi, tra bo eraill yn cynnal clinigau ac ymgynghoriadau i gleifion allanol.
Defnyddiwch y map isod i weld yr holl leoliadau lle rydym yn darparu gofal ledled ein rhanbarth. Cliciwch ar y pinnau am fwy o wybodaeth.