Mae Adroddiad Perfformiad Integredig Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (YDA) yr Ymddiriedolaeth yn crynhoi ac yn rhoi diweddariad o weithgareddau gwasanaeth YDA yr Ymddiriedolaeth ar gyfer pob chwarter o'r flwyddyn ariannol.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol YDA a gyhoeddwyd yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cefnogi nod strategol yr Ymddiriedolaeth i fod yn “Oleufa ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi” fel a ganlyn:
|
Blaenoriaethau Strategol |
|
|
BLAENORIAETH 1 |
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn bwrw ymlaen â gweithredu ei Huchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser 2022-2031. |
|
BLAENORIAETH 2 |
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gwneud y gorau o uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Gwaed Cymru. |
|
BLAENORIAETH 3 |
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu Cynllun Arloesi Felindre. |
|
BLAENORIAETH 4 |
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynyddu cyfleoedd cydweithredol i’r eithaf yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol |
Mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau yn erbyn blaenoriaethau strategol gwasanaeth YDA yr Ymddiriedolaeth, ochr yn ochr â gwaith ategol themâu trawsbynciol a swyddogaethau corfforaethol sy'n cefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi.
Mae'r adroddiadau ar gyfer chwarteri un i dri yn crynhoi'r gwaith yn y chwarter hwnnw, gan arwain at adroddiad blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.