Neidio i'r prif gynnwy

Cronfeydd Data

Hanfodion Cronfeydd Data

Rhagor o gymorth

 

Cronfeydd Data Tanysgrifiedig:

Mae'r cronfeydd data canlynol yn gofyn i chi fewngofnodi gyda'ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair GIG Cymru neu gyfrif OpenAthens GIG Cymru neu, os ydych ar un o safleoedd GIG Cymru, cewch fynediad ar unwaith drwy rwydwaith GIG Cymru.

Dylid rhoi gwybod am unrhyw broblemau gyda'r cronfeydd data gan gynnwys mynediad trwy anfon neges i: elibrary@wales.nhs.uk

 

Mae AMED yn gronfa ddata lyfryddol sy'n cynnwys gwybodaeth am therapïau amgen a therapïau perthynol i iechyd yn ogystal â phynciau cysylltiedig. Fe’i cynhyrchir yn fewnol yn y Llyfrgell Brydeinig ac fe’i lletyir ar y platfform Wolters Kluwer OVID. Mae’n cynnwys amrywiaeth o deitlau rhyngwladol a gyhoeddwyd rhwng 1985 a’r presennol. Caiff ei ddiweddaru gyda chynnwys newydd bob mis.

I gael rhagor o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) ASSIA

(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) ASSIA

Yn cynnwys cofnodion o 19 o wledydd. Mae’r gronfa ddata Applied Social Sciences Index & Abstracts yn ymdrin â’r gwyddorau cymdeithasol, cwnsela, plismona a gwaith cymdeithasol. Mae’n cynnwys cyfeiriadau at erthyglau ar faterion cymdeithasol, tlodi, caethiwed, trosedd, trais, gwahaniaethu, anghydraddoldeb a mwy. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) British Nursing Database

(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) British Nursing Database

Y BND yw'r fersiwn testun llawn o gronfa ddata lyfryddol British Nursing Index. Mae'n cwmpasu ymarfer, addysg, a llenyddiaeth ymchwil ar gyfer nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth gofal iechyd a darparwyr iechyd yn y DU a'r gymuned nyrsio ehangach. Mae’r llenyddiaeth yn cwmpasu teitlau a gyhoeddwyd yn y DU, Awstralia a Chanada, ynghyd â detholiad o deitlau nyrsio rhyngwladol eraill sy'n dyddio'n ôl i 1993.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

 

Mae BNI yn gronfa ddata lyfryddol sy'n mynegeio erthyglau o gyfnodolion nyrsio Saesneg a gyhoeddwyd yn bennaf yn y DU. Mae'n fynegai cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob agwedd ar nyrsio, bydwreigiaeth a gofal iechyd cymunedol a gyhoeddwyd rhwng 1985 a’r presennol. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

 

(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.)  CINAHL Plus with Full Text

(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) CINAHL Plus with Full Text

Cronfa ddata testun llawn sy’n cwmpasu pynciau nyrsio, biofeddygaeth, llyfrgellyddiaeth gwyddorau iechyd, meddygaeth amgen/cyflenwol, iechyd defnyddwyr a disgyblaethau perthynol i iechyd. Mae hefyd yn cynnwys taflenni gofal, modiwlau addysg, cofnodion offerynnau ymchwil, safonau ymarfer, a meddalwedd addysgol. Caiff ei diweddaru'n wythnosol ac mae'n cynnwys cofnodion o gyfnodolion sy'n dyddio'n ôl i'r 1930au. Daw llawer o'r cynnwys o Ogledd America, ond mae'n mynegeio llawer o gyfnodolion o’r DU hefyd.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Mae Llyfrgell Cochrane yn gasgliad o chwe chronfa ddata sy’n darparu adolygiadau systematig, crynodebau o dreialon clinigol, atebion i gwestiynau clinigol, protocolau, erthyglau golygyddol a mwy. Mae’r gronfa ddata yn ymestyn o 1992 i’r cyfnod presennol a chaiff ei diweddaru bob chwarter. Mae pencadlys y llyfrgell yn y DU. Mae tanysgrifiad e-Lyfrgell GIG Cymru i Lyfrgell Cochrane yn rhoi mynediad i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

EMBASE yw’r gronfa ddata lyfryddol biofeddygol a ffarmacolegol “Excerpta Medica”. Mae’r gronfa ddata yn ymdrin â chyffuriau a ffarmacoleg ac agweddau eraill ar feddygaeth ddynol a disgyblaethau cysylltiedig. Caiff ei diweddaru’n ddyddiol. Cynhyrchir Embase gan Elsevier yn Ewrop ac fe’i lletyir ar y platfform Wolters Kluwer OVID.

Embase <1974 hyd Heddiw>

Embase <1996 hyd Heddiw>

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Mae’r Ddata Helthcare Administration yn gronfa ddata testun llawn sy’n rhoi mynediad at gyfnodolion ysgolheigaidd, traethodau hir, traethodau ymchwil a chynnwys arall sy'n ymdrin â rheoli gofal iechyd, gweinyddu gofal iechyd, gweithwyr iechyd proffesiynol, ysbytai, iechyd y cyhoedd, yswiriant, y gyfraith, ystadegau, a moeseg.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Cynhyrchir cronfa ddata lyfryddol HMIC gan wasanaethau llyfrgell Adran Iechyd y DU a Chronfa'r Brenin ac fe'i lletyir ar blatfform Wolters Kluwer OVID. Mae’n cynnwys cyhoeddiadau swyddogol, erthyglau a llenyddiaeth lwyd yn ymwneud â rheoli iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys rheoli’r GIG, ansawdd gwasanaethau iechyd, rheoli ystadau, rheoleiddio meddyginiaethau ac offer meddygol. Caiff ei diweddaru chwe gwaith y flwyddyn.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Mae MIDIRS yn cynnwys y gronfa ddata lyfryddol Mamolaeth a Gofal Babanod gyda chrynodebau (MIC). Caiff ei chynhyrchu yn y DU. Mae sylw cynhwysfawr yn dechrau ym 1988 a chaiff cofnodion eu hychwanegu bob dydd.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Mae MEDLINE yn gronfa ddata lyfryddol o wybodaeth ar y gwyddorau bywyd a biofeddygaeth. Caiff ei chynhyrchu gan Lyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yr Unol Daleithiau. Mae’n cael ei diweddaru’n ddyddiol ac yn cynnwys llenyddiaeth a gyhoeddwyd rhwng 1966 a heddiw.

Ovid MEDLINE <POB>

Ovid MEDLINE <1946 hyd Heddiw>

Ovid MEDLINE <1996 hyd Heddiw>

Ovid MEDLINE ac Epub cyn Argraffu, ar y Gweill, Adolygiad Mewn Data a chyfeirnodau eraill heb eu mynegeio a dyddiol <1946 - Hyd Heddiw>

Ovid MEDLINE Epub cyn Argraffu, Ar y Gweill, Adolygiad Mewn Data a chyfeirnodau eraill heb eu mynegeio

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Yma, gallwch fynd at y casgliad llawn o gronfeydd data Ovid (HMIC a MIDIRS). Os byddwch yn mynd at y cronfeydd data yn y modd hwn, gallwch ddewis pa adrannau o’r cronfeydd data yr hoffech bori drwyddynt, a gallwch bori drwyddynt gyda’ch gilydd. Fel arall, os hoffech bori drwy’r cronfeydd data fesul un, gallwch hefyd eu gweld wedi’u rhestru ar wahân.

Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru. PsycINFO

Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru PsycINFO

Mae PsychINFO yn cynnwys deunydd llyfryddol sy'n canolbwyntio ar seicoleg a'r gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol. Mae’n cynnwys cyfnodolion a gyhoeddwyd rhwng 1806 hyd heddiw a llyfrau a gyhoeddwyd rhwng 1987 hyd heddiw. Caiff y cofnodion eu diweddaru'n wythnosol.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Mae Scopus yn gronfa ddata gyfeiriadau sy'n rhychwantu llawer o feysydd, blynyddoedd cyhoeddi, mathau o ddogfennau, a ffynonellau gan dros 5,000 o gyhoeddwyr byd-eang. Caiff Scopus ei diweddaru'n ddyddiol gyda thua 11,000 o erthyglau newydd yn cael eu mynegeio bob dydd.

 

Mae Social Policy and Practice yn gronfa ddata lyfryddol o gofnodion a chrynodebau sy'n dyddio o 1981. Mae’n cyfuno data o chwe chasgliad yn y DU o adnoddau polisi cymdeithasol ac ymarfer:  AgeInfo, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Planex, Social Care Online, a ChildData. Caiff ei diweddaru bob chwarter.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

 

Mae’r gronfa ddata Social Services Abstracts yn cynnwys crynodebau a mynegeion i fwy na 1,300 o gyhoeddiadau sy'n canolbwyntio ar waith cymdeithasol, gwasanaethau dynol, lles cymdeithasol, polisi cymdeithasol, datblygu cymunedol, a meysydd cysylltiedig eraill. Mae'r cyhoeddiadau yn dyddio'n ôl i 1979.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

 

Mynediad ar Rwydwaith GIG Cymru

Mewngofnodwch gydag OpenAthens GIG Cymru

Mae Sociology Collection yn gronfa ddata testun llawn sy’n cynnwys: Applied Social Sciences Index and Abstracts (ASSIA), Crynodebau Cymdeithasegol, Crynodebau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chronfa Ddata Cymdeithaseg

Gellir chwilio'r cronfeydd data ar wahân neu fel casgliad. Maent yn cynnwys cymdeithaseg a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â meysydd cysylltiedig yn dyddio rhwng 1952 a’r presennol. Mae'n darparu crynodebau, mynegeio, a thestun llawn o erthyglau cyfnodolion, llyfrau, traethodau hir, papurau gwaith, a mwy.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Gyda chyhoeddiadau yn dyddio rhwng 1952 a'r presennol, mae cronfa ddata Sociological Abstracts yn mynegeio tua 1,800 o gyhoeddiadau rhyngwladol sy'n tynnu sylw at y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol, gan gynnwys anthropoleg, troseddeg, demograffeg, addysg, y gyfraith, cysylltiadau hiliol, seicoleg gymdeithasol ac astudiaethau trefol. Mae hefyd yn rhoi crynodebau o lyfrau, adolygiadau o lyfrau, traethodau hir a phapurau cynhadledd.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

Mae'r TRIP Pro yn gronfa ddata lyfryddol yn y DU sy’n rhoi mynediad i adolygiadau systematig, treialon clinigol, canllawiau, delweddau a fideos meddygol, gwerslyfrau, blogiau a thaflenni ledled y byd. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.  

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

  •  
Mae Llyfrgell The Campbell Collaboration yn cynnwys adolygiadau systematig a adolygwyd gan gymheiriaid o effeithiau ymyriadau mewn addysg, trosedd a chyfiawnder, a lles cymdeithasol. Mae'r adolygiadau'n dyddio o 2000 ac maent ar gael mewn testun llawn gyda mynediad at deitlau cofrestredig, crynodebau gan ddefnyddwyr a phrotocolau cymeradwy.
Mae ERIC yn gronfa ddata lyfryddol sy’n cynnwys ymchwil a gwybodaeth addysgol. Caiff ei noddi gan Sefydliad y Gwyddorau Addysg (IES) yn Adran Addysg UDA.  Mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer erthyglau cyfnodolion, llyfrau, papurau cynhadledd, canllawiau cwricwlwm, traethodau hir a phapurau polisi. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.

Mae’r gronfa ddata Epistemonikos ​​​, sydd wedi’i lleoli yn Chile, yn defnyddio deg cronfa ddata lyfryddol i ddarparu adolygiadau systematig, synthesis tystiolaeth eang, crynodebau ac astudiaethau cynradd a methodolegol. Gellir ei chwilio mewn naw iaith a chaiff ei diweddaru bob wythnos.

Mae cronfa ddata lyfryddol GreenFILE ​​​​​​ yn cynnwys crynodebau sy'n ymdrin â phob agwedd ar effaith dyn ar yr amgylchedd. Mae ei chasgliad o deitlau ysgolheigaidd, llywodraeth a diddordeb cyffredinol yn cynnwys testunau ar gynhesu byd-eang, adeiladu gwyrdd, llygredd, amaethyddiaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, ailgylchu, a mwy.

  Cronfa Ddata Adnoddau Ecwiti Iechyd

Mae'r gronfa ddata lyfryddol hon, sydd wedi’i hanelu at wledydd Ewropeaidd, yn ymdrin ag annhegwch a gwahaniaethau yn statws iechyd gwahanol grwpiau poblogaeth. Mae'n cynnwys cyhoeddiadau, arferion, mentrau, polisïau ffynonellau data a dadansoddi polisi, ymchwil a manylion sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwn

 

Mae LISTA yn gronfa ddata lyfryddol sy'n rhoi crynodebau ar gyfer cyfnodolion, mynegeion llyfrau, adroddiadau ymchwil a thrafodion cynadleddau yn dyddio'n ôl i ganol y 1960au. Mae'r pynciau'n cynnwys llyfrgellyddiaeth, dosbarthu, catalogio, bibliometreg, adalw gwybodaeth ar-lein, rheoli gwybodaeth, peiriannau chwilio, ffynonellau gwybodaeth argraffedig ac electronig, y diwydiant gwybodaeth, cyfathrebu ysgolheigaidd, a chyhoeddi electronig.

Mae Orthosearch OrthoSearch yn gronfa ddata lyfryddol benodol i orthopaedig a leytir gan The British Editorial Society of Bone & Joint Surgery. Mae’n mynegeio cyfnodolion, safonau, canllawiau, rhagargraffiadau, fideos, podlediadau a chrynodebau o gynadleddau.

Mae PEDro yn gronfa ddata lyfryddol o Awstralia sy'n cynnwys hap-dreialon, adolygiadau systematig a chanllawiau ymarfer clinigol mewn ffisiotherapi. Caiff ei diweddaru yn fisol.

Mwy o gymorth a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r gronfa ddata hon

 

Wedi'i greu gan Lyfrgell Feddygaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau, mae PubMed yn gronfa ddata lyfryddol sy'n rhoi mynediad am ddim at filiynau o gyfeiriadau a chrynodebau o lenyddiaeth fiofeddygol sy'n dyddio'n ôl i 1966. Caiff ei diweddaru bob dydd.

Mae’r Transfusion Evidence Library yn gronfa ddata o adolygiadau systematig sy'n dyddio o 1980 a hap-dreialon rheoledig sy'n berthnasol i feddyginiaeth trallwyso yn dyddio o 1950. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.