Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dyfarnu Cymrodoriaeth i ddau aelod o Ganolfan Ganser Felindre: yr Athro Mark Taubert, sy’n Gyfarwyddwr Clinigol ar Feddygaeth Liniarol, a Dr Seema Arif, sy’n Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol.
Gwirfoddolodd nifer o Lysgenhadon Ifanc yr Ymddiriedolaeth i helpu i ddosbarthu’r 400 o wyau Pasg a roddwyd yn garedig unwaith eto gan Motonovo Finance, ar ôl dyblu eu rhodd ers y llynedd.
Mae Canolfan Ganser Felindre wedi lansio cynllun newydd i ailgylchu cannoedd o gymhorthion cerdded y flwyddyn. Mae Canolfan Ganser Felindre yn rhoi cymorth i boblogaeth o 1.5 miliwn o bobl a mwy a chroesawodd y Ganolfan 9,000 o atgyfeiriadau newydd gan gleifion trwy ei drysau yn 2023. Mae angen cymorth cerdded ar lawer o’r cleifion hyn – fel ffyn cerdded, baglau (crutches) a fframiau Zimmer.
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnal ei rhith-gyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn gyhoeddus ar 12 Mawrth 2024. Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio’r cyfarfod ar y platfform fideogynadledda Zoom.
Ar Sul y Mamau yma, mae Bethan Dyke, mam i ddau o blant, yn eiriol dros i fwy o roddwyr ddod ymlaen ar ôl derbyn trallwysiadau gwaed achub bywyd oherwydd cymhlethdodau yn dilyn genedigaeth ei hefeilliaid.
Mae’r animeiddiad yn darparu gwybodaeth i gleifion sy’n dechrau eu triniaeth am ganser gydag atalydd cinasau tyrosin. Yr enw mwy cyffredin ar hwn yw TKI ac fel arfer mae enw’r gwahanol fathau o’r moddion hwn yn gorffen gyda -nib.
Mae Ward y Llawr Cyntaf yn y Ganolfan Ganser wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Student Nursing Times yng nghategori ‘lleoliad y flwyddyn i fyfyrwyr: ysbyty’ ar gyfer model ‘prif ganolfan a lloerennau’ yn y maes dysgu.
Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae ein sefydliad a’n gweithwyr yn elwa o brentisiaethau. Mae Gradd-brentisiaethau Digidol yn helpu i uwchsgilio staff presennol, gan wella eu gwybodaeth i ddod â safbwyntiau newydd a sgiliau sy’n barod ar gyfer y dyfodol i’r gweithle.
Gall mwy o bobl nag erioed o'r blaen ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru i helpu cleifion i oresgyn canserau gwaed ac anhwylderau gwaed, mewn newidiadau a gyflwynwyd i nodi Diwrnod Canser y Byd.
Bu Isabel Dockings, 17 oed o Gasnewydd, yn derbyn diagnosis o Sarcoma Ewing Metastatig, math prin o ganser yr asgwrn a oedd wedi lledaenu ar ben ei glun yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae hi bellach yn nodi blwyddyn ers iddi gael diagnosis ar 6 Chwefror 2023 a 3 mis heb ganser.
Mae'n bleser gan y Tîm Gwella Gwasanaeth gyhoeddi enillwyr Gwobr 5 munud o Welliant y Mis Rhagfyr.
Rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 1.5 miliwn o bobl a mwy ac, yn rhinwedd ein rôl fel canolfan ganser arbenigol, rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gydag arbenigwyr ar draws sawl gwahanol faes o ofal canser.
Bydd ap digidol, arloesol yn cael ei dreialu yn rhan o brosiect y Gwasanaeth Oncoleg Acíwt yng Nghanolfan Ganser Felindre, sydd ag uchelgais allweddol o weithio’n ddoethach i wella gofal i gleifion gan ddefnyddio technoleg.
Rydym i gyd eisiau gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol i’n cleifion ac mae’r timau yn Felindre yn gweithio’n hynod o galed i ddysgu, gwella a llywio newid i greu diwylliant ystyrlon o ddiogelwch seicolegol.
Mae tad i ddau o blant a gafodd driniaeth am ganser y pen a'r gwddf wedi ymuno â galwadau gan arbenigwyr iechyd i grwpiau cymwys fanteisio ar eu cynnig brechu yn erbyn feirws papiloma dynol (HPV) ac amddiffyn eu dyfodol yn erbyn canserau ataliadwy.
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnal ei rhith-gyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn gyhoeddus ar 30 Ionawr 2024.
Mae'r treial SABRE yn cynnwys defnyddio'r system SpaceOAR Vue a ddyluniwyd gan Boston Scientific mewn cleifion sy'n cael eu trin â radiotherapi ar gyfer canser y prostad.
Ein blaenoriaeth o hyd yw darparu'r gofal mwyaf diogel i gleifion a sicrhau bod ein gwasanaethau'n rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel.
Mae ymroddiad ac ymrwymiad Sarah Bull, Cwnselydd yn y tîm Seicoleg Glinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi cael eu cydnabod gyda gwobr Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaethau i ofal lliniarol.
Wayne Griffiths, a ddechreuodd godi arian am y tro cyntaf pan gafodd ei ddiweddar ferch Rhian ddiagnosis o ganser ceg y groth yn 2010, wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).