Bydd y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru, yng Nghanolfan Ganser Felindre, yn lledfu’r sgil-effeithiau o drin canser y pen a’r gwddf.
Mae 300 o bobl gyda chanser yn cael eu hatgyfeirio i Felindre bob blwyddyn. Maen nhw’n cael eu trin gyda radiotherapi a chemotherapi, sy’n aml yn arwain at boen yn y geg a’r gwddf, ac sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i lyncu.
Mae cyfog, dadhydradu, diffyg maeth ac iselder ymhlith y sgîl-effeithiau eraill.
Mae Felindre wedi sefydlu gwasanaeth newydd - yr Uned Cefnogi Cleifion - i helpu cleifion i reoli’r sgîl-effeithiau yn gynharach ac yn well drwy wella eu lefelau maeth a hylif.
Meddai Dr Mererid Evans, y meddyg ymgynghorol sy’n arwain y gwasanaeth, "Fel arfer, bydd cleifion sydd â chanser y pen a’r gwddf yn gorfod cael radiotherapi wedi’i gyfuno â chemotherapi bob dydd am chwech i saith wythnos. Mae’r sgîl-effeithiau yn gallu bod yn ofnadwy, ond diolch i haelioni ein rhoddwyr, rydym yn cyflwyno cefnogaeth nyrsio, dietegol a lleferydd ac iaith yn gynnar i geisio atal y sgil-effeithiau gwaethaf.
“Ar sail profiad o wasanaeth tebyg yng Nghanada, rydym yn gobeithio gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd ein cleifion. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i bobl i reoli rhywfaint o’u gofal eu hunain yng nghysur eu cartrefi eu hunain. Bydd hyn, yn ei dro, yn lleihau’r angen iddynt orfod dod i Felindre fel cleifion mewnol."
Ar ôl cael cemotherapi a radiotherapi, dywedodd Nicholas Frost, un o’r cleifion cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth, "Roeddwn i’n meddwl y buaswn i yn ôl ar fy nhraed, ond mae wedi bod mor galed. Doeddwn i ddim yn gallu bwyta’n dda, doeddwn i ddim yn gallu yfed.... roedd fy ngwddf yn llosgi.. cymaint o symptomau gwahanol."
Diolchodd i staff Felindre. "Fe wnaethon nhw fy rhoi i ar ddrip ar unwaith. Dim mynd adref a dod nôl. Mae popeth wedi bod mor hawdd. I gyd yma, mewn un lle. "
Mae’r gwasanaeth wedi cael ei ariannu drwy rodd gan Andrew Probert. Cafodd ei wraig Jean ei thrin yn Felindre ar gyfer canser y gwddf.
Meddai Andrew Probert, "Daeth fy ngwraig Jean i Felindre lawer gwaith, a chafodd y driniaeth fwyaf ffantastig gan yr holl weithwyr proffesiynol ymroddedig y daeth i gysylltiad â nhw. Roedd y prosesau helaeth a blinedig, yn gorfforol ac yn emosiynol, yn llwyddiannus, ond yn anffodus, bu farw o gyflyrau meddygol eraill o fewn misoedd o gael gwybod ei bod hi wedi trechu canser.
"Treuliais i a fy nheulu lawer o amser gyda Jean yng ngwahanol adrannau o’r ysbyty. Yr hyn wnaeth ein taro hi a ni oedd y ffaith ein bod ni wedi’i chael hi’n gymharol hawdd, o’i gymharu â llawer o’r cleifion eraill a’u teuluoedd y daethom ar eu traws.
"Doedd ein hamser teithio i apwyntiadau ac ymweliadau cleifion mewnol ddim mwy nag ugain munud. Roedd gennym ein ceir ein hunain. Roeddem yn gallu blaenoriaethu bod gyda hi uwchlaw popeth arall, gan gynnwys gwaith. Roedd gennym amser i ddelio â phroblemau meddygol eraill nad oedd yn gysylltiedig â chanser, cawsom gefnogaeth gan ein gilydd, a doedd gennym ni ddim pryderon ariannol.
"Fe wnaethon ni’r penderfyniad ein bod ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i helpu’r cleifion a’r teuluoedd hynny sydd ddim yn ei chael hi mor hawdd ag y gwnaethom ni gyda’r agweddau ymarferol o ddelio â chanser. Roedd Jean yn arwain y penderfyniad hwnnw cyn iddi farw o gyflyrau meddygol eraill. Wrth gwrs, nid oedd unrhyw amheuaeth o gwbl y buasem yn parhau â’r cynlluniau hynny ar ôl ei marwolaeth.
"Nid dim ond y staff sy’n arwyr, ond y cleifion a’u teuluoedd hefyd. Maen nhw angen ac yn haeddu cymaint o gefnogaeth â phosibl. Mae’n fraint gennym helpu’r Ymddiriedolaeth i ddatblygu’r gefnogaeth honno."
Meddai Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, "Diolch i feddwl arloesol fy nghydweithwyr a haelioni ein rhoddwyr, bydd y gwasanaeth newydd hwn yn gwella’r gofal rydym yn ei gynnig i gleifion. Nid triniaeth ydy unig bwrpas ein gwaith. Rydyn ni yma i gefnogi pob unigolyn wrth iddyn nhw reoli’r hyn sy’n aml yn gyfnod heriol iawn. Mae’r gwasanaeth hwn yn gwneud hynny i’r dim."
Yn ogystal â chefnogi cleifion sy’n cael eu trin gyda radiotherapi, bydd y gwasanaeth yn cefnogi cleifion lliniarol hefyd.
Mae dau nyrs wedi cael eu recriwtio i’r gwasanaeth newydd, sy'n cael ei dreialu dros dair blynedd ar gost o £355,000.
Gobaith Felindre yw lleihau nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda chanser y pen a’r gwddf o 20 y cant dros dair blynedd.