Neidio i'r prif gynnwy

Donna Campbell

Donna Healthcare Assistant Gyda thristwch anhygoel, hoffem roi gwybod i chi y bu farw Donna Campbell, un o'n Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghanolfan Ganser Felindre, ar ddydd Gwener (10 Ebrill 2020).

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael prawf positif am COVID-19. Mae Donna wedi bod yn gweithio yn y ganolfan ganser ers blynyddoedd lawer, fel gwirfoddolwr i ddechrau.

Mae holl staff Felindre, yn enwedig ei thîm ar Ward y Llawr Cyntaf, yn gwbl dorcalonnus bod eu ffrind a'u cydweithiwr hardd, caredig wedi marw. Maen nhw wedi dweud: “Heb os ac oni bai, roedd hi’n aelod gwerthfawr o’n teulu yn y gwaith, a allai oleuo ystafell gyda’i chwerthiniad heintus a’i phersonoliaeth fyrlymus ond ar yr un pryd, roedd ganddi’r gallu mwyaf rhyfeddol i gysuro a gofalu am bobl. ''

Roedd cleifion a'u teuluoedd yn aml yn dweud sut roedd natur gynnes a diffuant Donna yn rhoi cysur iddynt, ac yn gwneud iddynt deimlo fel eu bod yn cael eu caru, hyd yn oed ar yr adegau mwyaf anodd.
''Roedd hi’n aml, yn canu ac yn dawnsio, yn difyrru cleifion a staff, ac yn gwneud i bawb wenu. Bydd gan Donna le arbennig yn ein calonnau bob amser, a bydd pob un ohonm eisiau anfon ein cydymdeimlad a'n cariad twymgalon at ei theulu yn ystod yr adeg anodd hon. "

Meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Steve Ham:
“Rydyn ni’n drist iawn ein bod ni wedi colli aelod o deulu Felindre. Byddwn yn ei chofio hi bob amser fel aelod ymroddedig, gweithgar o'n tîm nyrsio, a oedd yn falch o weithio i'r GIG. Yn gyntaf oll, rydym eisiau estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Donna. "

Fe wnaethom gysylltu gyda theulu Donna yn gyntaf cyn gwneud y cyhoeddiad hwn.