Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad: Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

“Ar ran Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a’i staff, hoffem fynegi ein cydymdeimlad diffuant i deulu Ei Mawrhydi y Frenhines yn sgil y newyddion hynod o drist ynglŷn â’i marwolaeth.

“Hoffem ddiolch yn wresog i’w Mawrhydi am ei gwasanaeth diwyro i’r wlad yn ystod ei bywyd ac am ei brwdfrydedd dros sefydliadau iechyd ledled Cymru.

“Mae’r newyddion am ei marwolaeth yn dorcalonnus, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’r Teulu Brenhinol, sef y rheiny a fydd yn ei galaru fwyaf.

“Diolch, Eich Mawrhydi. Heddwch i’ch llwch.”

Yr Athro Donna Mead OBE
Cadeirydd
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Steve Ham
Prif Swyddog Gweithredol
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre