Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Nosocomiaidd COVID-19 – Cwestiynau cyffredin gan gleifion a theuluoedd

Cyflwyniad

Sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd mewn ymateb uniongyrchol i Bandemig COVID-19. Mae gan GIG Cymru ddeddfwriaeth o’r enw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 – Gweithio i Wella, sy'n nodi’r gofynion o ran yr hyn y mae rhaid i Fwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth ei wneud pan fydd digwyddiad sy’n ymwneud â diogelwch cleifion yn digwydd, a/neu pan wneir cwyn ynghylch gofal a ariennir gan y GIG. Ystyr "nosocomiaidd" yw unrhyw haint, gan gynnwys COVID-19, sy'n cael ei ddal pan fo gofal iechyd yn cael ei ddarparu. Ystyrir bod haint sy'n cael ei ddal yn yr ysbyty neu mewn lleoliad gofal iechyd yn ddigwyddiad diogelwch cleifion. Mae hynny’n golygu bod darpariaethau'r broses Gweithio i Wella yn berthnasol.     

Erbyn hyn, mae Fframwaith Cenedlaethol a rhaglen waith wedi’u llunio i gefnogi dull cenedlaethol cyson o gynnal ymchwiliadau yn dilyn digwyddiadau diogelwch cleifion oherwydd COVID-19 nosocomiaidd. Mae’r Gweinidogion yn cefnogi’r rhaglen waith hon. 

Canlyniadau allweddol y rhaglen yw rhoi sicrwydd lefel uchel y bydd pob digwyddiad diogelwch cleifion oherwydd COVID-19 a gafwyd mewn lleoliad gofal iechyd yn destun ymchwiliad yn unol â gofynion Gweithio i Wella, a sicrhau y rhoddir sylw llawn i bryderon sy’n cael eu codi gan gleifion a'u teuluoedd. Bydd y rhaglen yn casglu'r hyn a ddysgwyd o ymchwiliadau ac yn croesgyfeirio hyn â phrofiad cleifion a staff, a fydd yn cael ei gofnodi fel rhan o'r rhaglen.

Nod y ddogfen hon yw rhoi atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â'r rhaglen. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd gan gleifion a theuluoedd ymholiadau manylach. Ar ddiwedd y ddogfen hon, ceir manylion cyswllt ar gyfer pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth. Gellir defnyddio’r manylion hyn i godi ymholiadau unigol er mwyn i’r sefydliad priodol ymateb iddynt yn uniongyrchol. Darperir manylion eiriolaeth annibynnol a chymorth mewn profedigaeth hefyd.