Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Preifatrwydd

Tanysgrifio i'n e-gylchlythyr

Diben a sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol

Ein diben ar gyfer casglu'r wybodaeth yw er mwyn i ni allu rhoi gwybodaeth amserol a pherthnasol i chi am wasanaethau a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth.Yn unol â dibenion cyfathrebu allanol, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich data personol yw eich caniatâd, o dan erthygl 6(1)(a) y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Beth sydd ei angen arnom

Eich enw a'ch cyfeiriad e-bost.

Pam ydyn ni angen y manylion hyn

Rydym yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon ein E-gylchlythyr atoch.

Beth ydyn ni’n wneud gyda’ch manylion

Rydym yn defnyddio eich manylion i ddarparu'r gwasanaeth ac unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich manylion, byddwch yn derbyn ein E-gylchlythyrau.

Am faint ydyn ni’n cadw eich manylion

Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen rhesymol i gadw'r wybodaeth at y dibenion sydd yn cael eu disgrifio yn yr hysbysiad hwn. 

Beth yw eich hawliau?

Mae eich caniatâd yn caniatau i ni brosesu eich data ar gyfer dibenion marchnata.  Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl, neu i wrthwynebu i’ch data personol gael ei brosesu at y diben hwn ar unrhyw adeg. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd yr Ymddiriedolaeth.

Os ydych chi eisiau tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data, yn unol â'r manylion yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Ydyn ni'n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydym yn defnyddio Campaign Monitor i anfon yr E-gylchlythyr. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Campaign Monitors.

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2,Cwrt Charnwood, Parc Nantgarw, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ
Rhif ffôn: 029 2019 6161