Neidio i'r prif gynnwy

Wellbeing accordion 2

15/11/22
Maetheg a Deieteg

Mae bwyta'n dda yn rhan bwysig o fywyd bob dydd.  Fodd bynnag, mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i'w fwyta pan fyddwch chi'n wynebu diagnosis canser.

Wrth i brisiau bwyd godi, efallai eich bod chi’n chwilio am ffyrdd i helpu i ostwng eich bil bwyd hefyd. Does dim angen i fwyta'n iach fod yn ddrud. Cymerwch olwg ar yr awgrymiadau isod i'ch helpu i fwyta'n dda a chadw'r costau i lawr.

Pwyntiau pwysig i arbed arian wrth siopa.

  1. Gwnewch gynllun prydau bwyd ac ysgrifennu rhestr siopa, ac edrychwch ar ba fwydydd sydd gennych gartref yn barod er mwyn osgoi prynu pethau nad oes eu hangen arnoch.
  2. Ceisiwch beidio â siopa pan fyddwch ar frys neu ar stumog wag
  3. Coginiwch mewn swp lle mae'n bosib - gall defnyddio popty araf fod yn rhatach i'w redeg
  4. Byddwch yn ymwybodol nad cynigion arbennig yw'r opsiwn rhataf bob amser
  5. Defnyddiwch fwydydd o fewn y dyddiad neu eu rhewi - oeddech chi'n gwybod y gallwch rewi wy amrwd, allan o'i gragen
  6. Mae brandiau gwerth neu opsiynau wedi'u rhewi yn aml yn blasu'r un mor dda am bris is ac yn aml, yn dod wedi'u torri'n barod
  7. Nid yw’r cynnyrch rhatach bob amser ar lefel y llygaid, felly gwiriwch yr holl silffoedd
  8. Mae archfarchnadoedd mwy yn aml yn cynnig amrywiaeth well o gynnyrch am bris rhatach, felly ceisiwch wneud eich prif siop yno
  9. Ystyriwch newid hanner y cig mewn pryd o fwyd am rywbeth arall, cael pryd o fwyd heb gig, neu hyd yn oed diwrnod heb gig.
  10. Wrth benderfynu pa gynnyrch i'w prynu, defnyddiwch brisiau'r uned i wirio pris bwyd am e.e. pris fesul 100g

Os ydych chi'n cael trafferth fforddio bwyd ac yn dymuno cael cymorth pellach, gall y sefydliadau isod helpu:

Gall cyngor ar bopeth eich helpu chi hefyd i ddeall pa gefnogaeth y gallech fod â hawl i’w chael,  a manteisio i'r eithaf ar eich arian.

Mae banciau bwyd yn cyflenwi bwyd am ddim i bobl sy'n cael trafferthion ariannol. Chwiliwch drwy wefannau Trussel Trust neu Fyddin yr Iachawdwriaeth am eich banc bwyd agosaf.   

Os hoffech siarad gydag un o'n tîm am unrhyw un o'r uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 02920 615888 est 2214.

Gyda diolch i ddalen ffeithiau bwyd BDA – Eat well, spend less.

15/11/22
Ffisiotherapi

Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yng Nghanolfan Ganser Felindre yn darparu cymorth i gleifion yn ystod eu harhosiad fel cleifion mewnol, fel cleifion allanol ac yn ychwanegol o fewn ein Huned Asesu a'n Huned Gofal Dydd.

Mae ffisiotherapyddion yn delio gyda swyddogaeth a symudiad dynol, ac yn helpu pobl i gyflawni eu potensial corfforol llawn. Maen nhw'n defnyddio dulliau corfforol i hyrwyddo, cynnal ac adfer lles. Mae ffisiotherapyddion yn arbenigwyr mewn dod o hyd i'r ffyrdd gorau i gleifion canser fod yn egnïol, gwella annibyniaeth a gwella ansawdd bywyd. Mae hyn yn gallu cynnwys rhaglenni ymarfer corff neu ddarparu cyngor ar weithgareddau pob dydd.

Mae tystiolaeth gynyddol sy'n dangos y gall parhau i fod yn actif yn ystod eich triniaeth canser helpu i reoli’r sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser. Mae'r manteision yn bellgyrhaeddol ac yn cynnwys manteision corfforol fel gostyngiad mewn blinder, mwy o gryfder yn yr esgyrn a’r cyhyrau a gwell archwaeth, ynghyd â lleihau hwyliau isel a phryder a gwella lles.

Yn ogystal, rydyn ni'n gwybod nawr, ar gyfer rhai mathau o ganser, y gall parhau'n actif helpu i leihau'r risg y bydd y canser yn dod yn ôl. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddod o hyd i weithgareddau rhad ac am ddim yn eich ardal leol yma.

15/11/22
Therapi galwedigaethol

Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yng Nghanolfan Ganser Felindre yn darparu cymorth i gleifion yn ystod eu harhosiad fel cleifion mewnol, fel cleifion allanol ac yn ychwanegol o fewn ein Huned Asesu a'n Huned Gofal Dydd.

Gallwn ddarparu asesiadau ac ymyriadau drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb, drwy alwadau fideo neu drwy alwadau ffôn.  Mae'r opsiynau hyn yn lleihau'r angen i deithio, sy'n effeithiol o ran amser ac yn gost-effeithiol i'n cleifion allanol.

Dyma rai o'r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan yr Adran Therapi Galwedigaethol yng Nghanolfan Ganser Felindre:

  • Delio â Blinder
  • Rheoli Pryder / Ymlacio
  • Clustogau arbenigol ar gyfer anghysur neu boen yn ymwneud â diagnosis
  • Adsefydlu Galwedigaethol
  • Rheoli Diffyg Anadl
  • Cymhorthion bach i gefnogi swyddogaeth ac annibyniaeth
  • Strategaethau gwybyddol

Mae ein cleifion yn aml yn teimlo y byddan nhw'n elwa o newid y ffordd maen nhw'n cyflawni tasg. Gallwn eu cefnogi i ddod o hyd i ffordd arall o wneud pethau gyda mwy o annibyniaeth, ac mae hyn yn gallu lleihau'r angen am ofal wedi'i ariannu.

Rydym yn gallu asesu ar gyfer amrywiaeth o offer hefyd a fydd yn helpu i chi barhau â’ch sgiliau byw bob dydd a'ch hyder wrth ail-gydio mewn gweithgareddau ar ôl aros yn yr ysbyty, ac rydym yn gallu darparu’r offer hyn hefyd.

Mae bob amser yn werth sgwrsio â Therapydd Galwedigaethol os ydych chi wedi gweld offer yn cael ei hysbysebu. Yn aml, mae yna ddewisiadau amgen y gellir eu canfod sy'n fwy cost-effeithiol ac sy'n gallu eich cefnogi gyda'r un dasg.