Neidio i'r prif gynnwy

Wellbeing accordion 1

15/11/22
Ymarfer corff

Mae cadw'ch corff yn actif yn gallu helpu i leddfu rhai o sgil-effeithiau canser a'i driniaethau. Mae gan ymarfer corff lawer o fanteision i'ch corff a'ch meddwl, a dyma rywfaint o opsiynau defnyddiol sy'n gwneud ymarfer corff yn hygyrch i bawb, waeth ble rydych chi'n dechrau.

Mae mwy o bobl nag erioed eisiau cadw'n heini am ddim. Un ffordd o barhau i wneud ymarfer corff a lleihau costau yw darganfod lle gallwch fynd am dro yn eich ardal leol. Mae'n debygol y bydd sawl gofod agored, meysydd chwarae, gwarchodfeydd natur, caeau chwaraeon a pharciau y gallwch fynd iddynt yn agos at eich cartref. Un ffordd o ddod o hyd i ble maen nhw yw dod o hyd i'ch parc lleol ar gov.uk. Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i'ch pwyntio i gyfeiriad cywir parciau a mannau gwyrdd ar stepen eich drws. Mae’n ffordd wych hefyd o gynnwys ymarfer corff yn eich rwtîn bob dydd, gan nad yw ymarfer corff bob amser yn golygu ymuno â champfa.

Mae Parkrun yn cynnig digwyddiadau cymunedol cenedlaethol am ddim, bob wythnos, mewn parciau lleol a mannau agored. Mae'r digwyddiadau bore Sadwrn yn bellter o 5km, ac mae croeso i'r rheini sy’n cymryd rhan i gerdded, loncian, rhedeg neu wneud cymysgedd o'r uchod. Digwyddiadau cymunedol cynhwysol yw'r rhain, a does neb yn gorffen yn olaf. I gael gwybod mwy, ewch i www.parkrun.org.uk.

Mae'r digwyddiad '5k Your Way, Move Against Cancer' yn fenter gymunedol i annog y rheini sy'n byw gyda chanser a’u teuluoedd a’u ffrindiau, a phobl sy'n gweithio ym maes gwasanaethau canser i gerdded, loncian, rhedeg, cefnogi neu wirfoddoli mewn digwyddiad parkrun pump km lleol ar ddydd Sadwrn olaf bob mis. I gael gwybod mwy neu i ddod o hyd i'ch digwyddiad parkrun agosaf, ewch i: www.5kyourway.org

Mae gan NHS Fitness Studio ystod o fideos ymarfer corff ar-lein am ddim, ac mae’r cyfan o fewn y ’’canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corfforol wythnosol. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw mynd i'r tabiau ar frig y dudalen a dewis o blith 24 o sesiynau ymarfer corff dan arweiniad hyfforddwyr. Mae'r sesiynau'n amrywio o 10 munud i 45 munud, ac yn cynnwys ymarferion aerobics, cryfder ac ymwrthedd, pilates, a ioga.

Siaradwch â'ch clinigwr i gael cyngor ynghylch pa fath o ymarfer corff sy'n addas i chi. Y cyfan sydd ei angen arnoch i gymryd rhan yn yr ymarferion hyn yw mynediad at ddyfais a'r rhyngrwyd.

15/11/22
Lles emosiynol

Mae Ap Ymwybyddiaeth Ofalgar Felindre am ddim, ac wedi cael ei greu gan dîm Seicoleg Canolfan Ganser Felindre i gefnogi cleifion drwy eu profiad canser. Dydy’r Ap ddim yn benodol ar gyfer pobl sydd â chanser ac felly, gall unrhyw un ei ddefnyddio fel arf i reoli straen a phryder.

Bydd gwrandawyr yn cael eu tywys drwy ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i wella eu hiechyd meddwl a lles, ac mae'n gallu cael eu defnyddio cyn, yn ystod neu ar ôl triniaeth ysbyty. Mae elfen ymlacio hefyd i'r Ap, sydd wedi cael ei ddarparu trwy garedigrwydd y tîm Therapi Galwedigaethol yma yn Felindre.

Gallwch lawrlwytho'r ap am ddim: