Neidio i'r prif gynnwy

Mental health accordion

15/11/22
Gwasanaeth Seicoleg Glinigol a Chwnsela

Yn Felindre, mae'r Gwasanaeth Seicoleg Glinigol a Chwnsela yn asesu ac yn helpu pobl i reoli'r anawsterau seicolegol ac emosiynol sy'n codi o ganlyniad i ganser. Mae’r gwasanaeth yn gallu eich cyfeirio at ystod enfawr o wasanaethau cymorth i'ch helpu.

Rydyn ni'n gwybod y gall yr effaith seicolegol o fyw gyda chanser gael ei ddwysáu gyda chostau byw cynyddol, ac rydyn ni yma i'ch helpu. Dysgwch am ein tîm, ac am y gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu.

Rydym yn cynnig therapi siarad i bobl sy'n byw gydag effaith canser, i'w helpu i deimlo'n fwy abl i ymdopi â'u sefyllfa a'u teimladau anodd. Rydyn ni’n dysgu amrywiaeth o strategaethau hefyd i helpu pobl i ymdopi â’u teimladau, yn unigol neu mewn grwpiau gydag eraill a allai deimlo'r un fath.

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa o siarad â rhywun neu ddysgu sut i reoli eich gofidiau a'ch pryderon, gofynnwch i'ch clinigwyr, fel eich nyrs neu eich meddyg, i'ch cyfeirio at ein tîm. Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu a allai eich cyfeirio at rywun yn lleol hefyd.

15/11/22
Hunan-help

Fe wnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) ddysgu’r gwerth i ni o gynnal ein gwydnwch emosiynol. Rydyn ni'n fwy gwydn, ac yn gallu ymdopi â straen pan fyddwn ni:

  • Yn teimlo cysylltiad â phobl eraill.
  • Yn gofalu am ein hiechyd corfforol, ac yn bwyta a gwneud ymarfer corff cystal ag y gallwn ni.
  • Yn deall a rheoli ein meddwl a'n ffordd o feddwl, yn hytrach na gorfeddwl, sydd yn aml yn gallu gwneud i broblemau ymddangos yn waeth.
  • Yn anghofio am dipyn am ddatrys problemau, ac yn mwynhau ein hunain gyda gweithgareddau sy'n codi ein hwyliau.

Gall llawer o'r camau uchod fod am ddim, a dylen ni gyd gofio eu blaenoriaethu, boed yn teimlo straen ai peidio ar hyn o bryd.

Mae amrywiaeth o elusennau cefnogi canser sydd yn cynnig gweithgareddau am ddim er lles eich iechyd meddwl hefyd: