Neidio i'r prif gynnwy

Financial support accordion 2

15/11/22
Costau teithio'r GIG

Efallai y bydd gennych hawl i gael help gyda chostau teithio angenrheidiol os oes angen i chi deithio i dderbyn triniaeth gan y GIG a gweld ymgynghorydd. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu mwy o wybodaeth.

15/11/22
Dŵr

Mae cynllun cymorth Dŵr Cymru yn cynnwys yr opsiynau i ledaenu cost eich bil, arbed arian gyda mesurydd dwr, gofyn am seibiant talu tymor byr, a mwy.

15/11/22
Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi Taliad Tanwydd Gaeaf rhwng £250 a £600 os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956. Bydd hyn yn cynnwys Taliad Costau Byw i Bensiynwyr yn ystod gaeaf 2022 a 2023, yn ogystal ag unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth arall rydych chi’n eu derbyn.

15/11/22
Taliad Tywydd Oer

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi Taliad Tywydd Oer hefyd, os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol. Mae hwn yn daliad o £25 y diwrnod am bob cyfnod saith diwrnod o dywydd oer yn ystod y gaeaf.

15/11/22
Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Cymru

Mae Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru yn rhoi taliad untro o £200 i aelwydydd cymwys i helpu tuag at eu biliau tanwydd. Mae wedi'i anelu at aelwydydd incwm isel. Mae hyn ar wahân i Daliadau Tanwydd Gaeaf a Thaliadau Tywydd Oer Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

15/11/22
NYTH – Cynllun NYTH Cartrefi Cynnes Llywodraethau Cymru

Mae’r Cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd, am ddim, ac os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog, insiwleiddio, neu baneli solar. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch lles.

15/11/22
Taliad Disgresiwn at Gostau Tai

Gall awdurdodau lleol roi Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, i ddarparu cymorth ariannol i helpu gyda chostau rhent neu dai, ac eithrio ar gyfer y dreth gyngor. Mae hyn yn berthnasol i denantiaid y sectorau cymdeithasol a phreifat.

15/11/22
Cynllun Prydlesu Cymru

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi nodau Cynllun Prydlesu Cymru i gynyddu mynediad at rentu'n breifat yng Nghymru, ac at y fforddiadwyedd o wneud hynny. Mae yna bump awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cynllun yn Ne Ddwyrain Cymru.

15/11/22
Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl.

Taliad Cymorth Brys
Grant i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys os ydych yn profi caledi ariannol eithafol, wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau a’ch bod chi’n aros am eich taliad cyntaf. Ni allwch ei ddefnyddio i dalu am filiau parhaus na allwch fforddio eu talu.

Taliad Cymorth Unigol
Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu eiddo rydych chi neu nhw'n symud i mewn iddo.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.