Neidio i'r prif gynnwy

Financial support accordion 1

15/11/22
Tâl salwch statudol

Mae hwn yn fudd-dal i bobl sydd yn gyflogedig ond sydd ddim yn gallu gweithio am eu bod yn sâl. Gallwch dderbyn Tâl Salwch Statudol am hyd at 28 wythnos.

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i chi gael eich cyflogi, ennill cyfartaledd o £123 yr wythnos o leiaf, ac wedi bod yn sâl am o leiaf pedwar diwrnod yn olynol, sy'n gallu cynnwys diwrnodau dim gweithio, fel penwythnosau a gwyliau banc. Yn allweddol, nid yw Tâl Salwch Statudol yn fudd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.

15/11/22
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae hwn yn fudd-dal i bobl sydd yn sâl neu'n anabl. Ei nod yw darparu arian os nad ydych chi’n gallu gweithio, neu gefnogi rhywun i ddychwelyd i'r gwaith os ydych chi’n gallu.

I wneud cais am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 'dull newydd', mae'n rhaid i chi fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a gydag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n effeithio ar faint allwch chi weithio.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.

15/11/22
Credyd Cynhwysol

Mae hyn yn fudd-dal i helpu pobl gyda chostau byw, ac mae'n cael ei dalu bob mis. Gallwch ei dderbyn os ydych chi ar incwm isel, allan o waith, neu os nad ydych chi’n gallu gweithio. Cyflwynodd Llywodraeth y DU Gredyd Cynhwysol, i ddisodli nifer o fudd-daliadau etifeddiaeth a chredydau treth, gan gynnwys: Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, a Chredyd Treth Gwaith. Byddwch yn rhoi'r gorau i gael y budd-daliadau a'r credydau treth hyn pan fyddwch chi neu eich partner yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi ar unrhyw un o'r budd-daliadau etifeddiaeth y sonnir amdanynt uchod, rydym yn argymell eich bod chi’n derbyn cyngor gan gynghorydd profiadol cyn hawlio'r Credyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd na fyddwch yn gallu mynd yn ôl i gael y rhain ar ôl i chi hawlio Credyd Cynhwysol.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.

15/11/22
Taliad Annibyniaeth Personol

Mae hwn yn fudd-dal i helpu gyda chostau byw ychwanegol i bobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor. Nid yw'r budd-dal hwn yn fudd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd.

Nod Taliad Annibyniaeth Personol yw eich cefnogi os ydych chi'n wynebu anhawster i wneud tasgau bob dydd neu i fynd o gwmpas oherwydd eich cyflwr. Dyna pam mae dwy ran i Daliad Annibyniaeth Personol , sef yr elfen bywyd pob dydd a’r elfen symudedd.

Mae'r broses i dderbyn Taliad Annibyniaeth Personol yn llawer cyflymach os yw gweithiwr meddygol proffesiynol yn credu y gallech chi fodloni’r rheolau arbennig ar gyfer pobl derfynol wael, felly cadwch hyn mewn cof os yw'n berthnasol i chi.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.

15/11/22
Lwfans Byw i'r Anabl i oedolion

Mae hwn yn fudd-dal i bobl sydd â phroblemau symudedd neu sydd angen gofal personol. Ond mae wedi cael ei ddisodli gyda budd-daliadau eraill ar gyfer pobl anabl.

I bobl sy'n cael eu geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948, byddwch yn parhau i dderbyn Lwfans Byw i’r Anabl am gyn belled â'ch bod chi’n gymwys i’w gael. Ar gyfer pobl cymwys a gafodd eu geni ar ôl 8 Ebrill 1948, byddwch yn cael gwybod pan fydd eich cais yn dod i ben, a sut y gallwch wneud cais am Daliadau Annibyniaeth Personol.

Os ydych yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl ar hyn o bryd a’ch bod chi’n teimlo bod eich gofal neu symudedd wedi newid, yna efallai y byddwch eisiau derbyn cyngor cyn gofyn am gael adolygu eich anghenion. Gallwch gysylltu â'n Cynghorwyr Hawliau Lles Macmillan i gael mwy o wybodaeth neu gyngor am hyn.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.

15/11/22
Lwfans Gweini

Mae hwn yn fudd-dal i helpu gyda chostau ychwanegol i bobl sydd ag anabledd, sy'n golygu eu bod angen rhywun i’w cynorthwyo gyda’u gofal, a’ch bod chi wedi bod angen yr help hwnnw am o leiaf chwe mis.

Mae Lwfans Gweini yn cael ei dalu'n wythnosol ar ddwy gyfradd wahanol – is ac uwch – ac mae'r un rydych chi'n ei dderbyn yn dibynnu ar lefel yr help sydd ei angen arnoch chi. Nid yw hwn yn fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd.

Mae'r broses i dderbyn Lwfans Gweini yn llawer cyflymach os yw gweithiwr meddygol proffesiynol yn credu y gallech fodloni’r rheolau arbennig ar gyfer pobl derfynol wael, felly cofiwch hynny os yw'n berthnasol i chi.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.

15/11/22
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Mae hwn yn fudd-dal a allai helpu gyda chostau ychwanegol i bobl sydd â chlefyd sydd wedi cael ei achosi gan eu swydd neu ddamwain yn y gweithle. Er enghraifft, mae rhai mathau o ganser yn cael eu hachosi gan asbestos a oedd yn cael ei ddefnyddio'n aml yn y diwydiant adeiladu.

Sganiwch i gael mwy o wybodaeth.