Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi ein Lluoedd Arfog

 

A uniformed soldier walks through a field. Cyfamod y Lluoedd Arfog

Ein haddewid i’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu

Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre rydym yn falch o fod wedi ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog yn 2019. Dyma ein haddewid i’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, eu bod yn cael eu trin yn deg. Rydym wedi addo anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi eu cymuned trwy gydnabod gwerth Personél sy’n Gwasanaethu, Milwyr Rheolaidd a Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr a theuluoedd milwrol a’u cyfraniad i’n sefydliad a’n gwlad.

Byddwn yn sicrhau bod aelodau o’n cymuned Lluoedd Arfog yn derbyn cymorth i gael mynediad at yr un gwasanaethau ag unrhyw unigolyn arall.

 

 

Egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog

Drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym wedi ymrwymo i gynnal yr egwyddorion allweddol, sef:

  • Ni ddylai unrhyw aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol i unrhyw ddinesydd arall
  • Mewn rhai amgylchiadau gall triniaeth arbennig fod yn briodol yn enwedig i'r rhai sydd wedi'u hanafu neu mewn profedigaeth.

 

 

Armed Forces Covenant  | Employer Recognition Scheme | Gold Award 2023 | Proudly supporting those who serve Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS)

Enillodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Wobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn 2021. Darganfyddwch fwy.

Nodau gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yw annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyn ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

 

 

 

Milwyr Wrth Gefn a Chyn-filwyr

 

Gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn croesawu ceisiadau gan filwyr wrth gefn sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr, gan gydnabod a gwerthfawrogi’r profiad ychwanegol a’r sgiliau trosglwyddadwy maent yn eu datblygu trwy eu hyfforddiant yn y lluoedd arfog a’u gyrfa filwrol, megis gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth, ymrwymiad, penderfyniad a hunanhyder.

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Bolisi Milwyr Wrth Gefn sy’n eich cefnogi i ymgymryd â gofynion hyfforddi. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gyflogwr hyblyg, gan ddarparu mynediad at Bolisi Gweithio Hyblyg.

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa yn amrywio o rolau gweinyddol/rheoli prosiect a rolau clinigol, gwyddonol a thechnegol yng Nghanolfan Ganser Felindre a Gwasanaethau Gwaed Cymru.  Gellir dod o hyd i restr o'n swyddi gwag presennol hefyd ar NHS Jobs

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2,Cwrt Charnwood, Parc Nantgarw, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ
Rhif ffôn: 029 2019 6161