Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi ein staff

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnig ystod eang o gynlluniau sydd wedi'u datblygu i gefnogi a gwobrwyo ein gweithwyr, ac mae rhai ohonynt yn cael eu rhestru isod:  

  • Mynediad i gynlluniau aberthu cyflog fel prydlesu ceir a beicio i'r gwaith
  • Cefnogaeth i gael cymorth tuag at y gost o dalu am gynlluniau gofal plant/chwarae cofrestredig yn ystod gwyliau’r ysgol 
  • Mynediad at ystod o systemau cefnogi iechyd a lles, sy’n cynnwys y Rhaglen Cymorth i Weithwyr annibynnol, Iechyd Galwedigaethol ac Ymwybyddiaeth Ofalgar
  • Y cyfle i wneud cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol bob blwyddyn