Neidio i'r prif gynnwy
Steve Ham

Amdanaf i

Ar ôl graddio mewn Gweinyddu Busnes ym Mhrifysgol Caerfaddon, hyfforddodd Steve fel cyfrifydd gyda Grant Thornton cyn dod yn Uwch Reolwr yn Ernst and Young. Yn dilyn hynny, ymunodd â'r GIG ym 1993 gydag Awdurdod Iechyd Gwent ac yn y pen draw daeth yn Gyfarwyddwr Cyllid Dros Dro yn 2002 cyn dod yn Gyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd. Mae Steve wedi bod gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre er 2009 fel y Cyfarwyddwr Cyllid ac ef bellach yw'r Prif Weithredwr.

Mae Steve yn cadeirio'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes Cenedlaethol gan weithio'n agos gyda chynrychiolwyr y Gwasanaeth Iechyd, y trydydd sector a chynrychiolwyr cleifion.

Cyn hynny, roedd yn Ymddiriedolwr Elusen ac yn Is-gadeirydd grŵp Llywodraethwyr Ysgol.