Neidio i'r prif gynnwy
Cath O Brien
Cath O'Brien

Amdanaf i

Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro

Cath O'Brien MBE yw Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre ac mae'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth yng Nghanolfan Ganser Velindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae ganddi hanes llwyddiannus o ddarparu rhaglenni newid mawr ym maes iechyd ac addysg, yn fwyaf diweddar yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru. O 2017 ymlaen fe arweiniodd Dîm Rhaglen Llywodraeth Cymru gan archwilio sut y gallai datblygiadau Therapi Cell a Gene ddarparu gwell gofal i gleifion a budd economaidd gan arwain at sefydlu Therapïau Uwch Cymru.

Treuliodd Cath ei gyrfa gynnar fel fferyllydd yng Nghaerdydd a De Cymru cyn symud i rolau uwch reolwyr mewn cwmnïau fferylliaeth fasnachol. Yn 2002 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ac wedi hynny ymgymerodd ag ystod o waith datblygu polisi a materion cyhoeddus ledled y DU cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd fel Cyfarwyddwr Canolfan Addysg Broffesiynol Fferylliaeth Cymru.

Mae Cath yn aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n gweithio i gyflawni eu ffocws ar gefnogi iechyd a lles economaidd i bobl Cymru.