Cymhwysodd yr Athro Donald Fraser mewn meddygaeth o Brifysgol Bryste ym 1993, cyn hyfforddi a gweithio mewn ysbytai ym Mryste, Manceinion, Gogledd Cymru a Chaerdydd.
Mae Donald yn arwain labordy ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n ymroddedig i ddeall a gwella gofal i bobl sydd wedi'u heffeithio gan glefyd yr arennau, ac mae'n gweithio fel meddyg ymgynghorol anrhydeddus yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbytai Brenhinol Gwent.
Mae rolau eraill Donald yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi ar gyfer y rhaglen hyfforddiant academaidd WCAT (2017-), Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu ar gyfer Ysbyty Athrofaol Cymru (2016-), a thymor fel Cadeirydd Pwyllgor Grantiau Ymchwil Arennau'r DU y mae ar fin ei gwblhau (2018-20).